Owdwl foliant i Lywelyn ap Gwilym o Emlyn
1 Llyfr Dwned Dyfed dyfyn ar windai
2 o randir Llywelyn
3 llannerch aed annerch pob dyn
4 lle twymlys llu at Emlyn
5 Llynn o bark Emlyn kamlas hyd Teifi
6 ar tefyrn ymhob plas
7 lludded gerdd lladiad ei gas
8 lle bu /r/ orddod llwybr urddas
9 Llwybr urddas bar bas yn bwrw bryn eglur
10 oglais Lloegr a Phrydyn
11 lle del yr holl fyd a dynn
12 llaw hael ag enw Llywelyn
13 Llywelyn ai mynn i myvi a grym
14 llawenfab Gwilim erddrym wrddri
15 lle i adrawd kawdd yn koddi no chaeth
16 llywodraeth a maeth a wnaeth a mi
37 Llorf llwyth ei dylwyth hyd dwyli yn traidd
38 lariaidd brawdwraidd hyd bryderi
17 Llafuriawdd berthawdd i borthi digeirdd
18 llys ymryn y beirdd lle heirdd yw hi
19 lle knawd kael gwaskawd a gwiski dillad
20 lletuy Angharad wastad westi
21 Lle kynefin gwin a gweini heilgyrn
22 lle chwyrn llwybr tefyrn lle beirw Teifi
23 Lle dichwerw aserw o erysi bryd
24 lle i chwery esbyd byd eb oedi
25 Lle maith yn llawn waith llenwi buelin
26 lle mae ufyddwin llym i feddwi
27 Lle oth werth Dduw nerth ydd af i drachefyn
28 lle anarloesdrefn llanw aur llestri
49 lle mae gwin ffraink ar ffraink fankr babi ddodrefn
50 llefn gair llystrefn agaur llestri
29 Llys feurwr ai gwnaeth llefeiri yn falch
30 lliw gaer yn lwysgalch llugurn losgi
31 llownaf dianaf daioni mynyd
32 lluniaeth ffraeth ffrwythlud glud glodfori
33 Llwybreiddwlad gariad gwri wallt euryn
34 llywelyn drostyn ai law drosti
35 Llywiawdr ymerawdr meir Edeffled
36 llyw yw ar Ddyfed llawer ddofi
39 Llathrlaw ysbeuraw ysberi gwehyll
40 llid pyll arf dedryll arfod Rodri
41 Llinongadr baladr Beli ynghyngaws
42 llwyr naws llyr hoiwdraws llew wrhydri
43 Llowngrair hau a bair i beri llwyddfoes
44 llawenydd a roes ym oes im mi
45 Llywelyn derwyn i dori aergad
46 llaw fad aur rruddiad a wyr rrodi
47 Llywia na threia un a thri rrag llaw
48 Llywddaw dawn iddaw Duw yw noddi
Dafydd ap Gwilym ai kant Owdl.