Cywydd i'r dywyll-nos
1 Gwae fardd a fai gyfa ei orn
2 Gofalus ar gyfeilorn
3 Tywyll yw'r nos ar ros rynn
4 Tywyll och am y towynn
5 Tywyll draw ni ddaw i'm dda
6 Tywyll mau amwyll yma
7 Tywyll isso mau fro frad
8 Tywyll yw tw y lleuad
9 Gwae fi na wyr lwyr loew ryw
10 da ei llun mor dywyll yw
11 Am bod mi a'i chlod achlan
12 mewn tywyllwg maint allan
19 Nid call i fardd arall-wlad
20 Ac nid teg mewn breg a brad
21 O'm cair yn vn-wlad a'm câs
22 Am dal mi am march dulas
23 Nid callach dyrysach draw
24 fynghael wedi fyng hiliaw
25 Y mawn-bwll ar ol mwyn-barch
26 gwedi boddi mi a'm march
27 Pydew rhos agos eigiawn
28 pwy a all mwy mewn pwll mawn
29 Pyscod-lyn i Wynn yw ef
30 Ap Nudd o bu'n ei oddef
31 Pydew rhwng gwaun a chau-nant
32 Plâs yr ellyllon a'u plant
35 llynn gwin egr llanw gwineu-goch
36 lloches lle'r ymolches moch
43 Oerfel i'r delff ni xx orfu
44 Ai cloddies ar foel-des fu
45 Hwyr y rhof o dof i dir
46 Y mendith yn y mawn-dir
dd ap Gwilym