â â â Y Llwynog
1â â â Doe yr oeddwn, dioer eddyl, 
2â â â Dan y gwydd, gwae'r dyn nyw gwyl, 
3â â â Gorsefyll dan gyrs Ofydd 
4â â â Ac aros gwen goris gwydd. 
5â â â Mal 'roeddwn, inseiliwn sail, 
6â â â Lonyddaf dan lwyn addail - 
7â â â Gwnaeth ar fy hwyl ym wylaw - 
8â â â Gwelwn, pan edrychwn draw, 
9â â â Llun gwrab lle ni garwn, 
10â â â Llwynog coch, ni châr llên cwn, 
11â â â Yn eiste fal dinastwrch 
12â â â Gair ei ffau ar gwr ei ffwrch. 
13â â â Anelais rhwng fy nwylaw 
14â â â Fwa yw, drud a fu draw, 
15â â â Ar fedr, fal gwr arfodus, 
16â â â Ar ael y rhiw, arial rhus - 
17â â â Arf i redeg ar frodir - 
18â â â Ei fwrw â saeth ofras hir. 
19â â â Tynnais, o wyrgais, ergyd 
20â â â Heb y gern heibio i gyd. 
21â â â Mau och, aeth fy mwa i 
22â â â Yn drichnap, annawn drychni. 
23â â â Llidiais, nid arswydais hyn, 
24â â â Arth ofidus, wrth fadyn. 
25â â â Gwr yw ef a garai iâr, 
26â â â A choeg edn, a chig adar, 
27â â â Gwr ni ddilid gyrn ddolef, 
28â â â Garw ei lais a'i garol ef. 
29â â â Gwridog yw ym mlaen grodir, 
30â â â Gwedd âb ymhlith y gwydd ir, 
31â â â Lluman brain garllaw min bryn, 
32â â â Llamwr erw, lliw maroryn, 
33â â â Drych nod brain a phiod ffair, 
34â â â Draig unwedd daroganair, 
35â â â Cynnwr fryn, cnöwr iâr fras, 
36â â â Cnu dihareb, cnawd eirias, 
37â â â Taradr daeargadr dorgau, 
38â â â Tanllestr ar gwr ffenestr ffau, 
39â â â Bwa latwm di-drwm draed, 
40â â â Gefel unwedd gylfinwaed. 
41â â â Nid hawdd ymy ddilid hwn 
42â â â A'i dy annedd hyd Annwn. 
43â â â Deugwae'r talwrn lle digwydd, 
44â â â Delw ci yn adolwg gwydd. 
45â â â Rhodiwr coch, rhydaer y'i caid, 
46â â â Rhedai 'mlaen rhawd ymlyniaid. 
47â â â Llym ei ruthr, llamwr eithin, 
48â â â Llewpart a dart yn ei din.