Edited Text: 60 - Y Llwynog

Print friendly version

Y Llwynog

Doe yr oeddwn, dioer eddyl,
Dan y gwŷdd, gwae'r dyn nyw gwŷl,
Gorsefyll dan gyrs Ofydd
4Ac aros gwen goris gwŷdd.
Mal 'roeddwn, inseiliwn sail,
Lonyddaf dan lwyn addail —
Gwnaeth ar fy hwyl ym wylaw —
8Gwelwn, pan edrychwn draw,
Llun gwrab lle ni garwn,
Llwynog coch, ni châr llên cŵn,
Yn eiste fal dinastwrch
12Gair ei ffau ar gwr ei ffwrch.

   Anelais rhwng fy nwylaw
Fwa yw, drud a fu draw,
Ar fedr, fal gŵr arfodus,
16Ar ael y rhiw, arial rhus —
Arf i redeg ar frodir —
Ei fwrw â saeth ofras hir.
Tynnais, o wyrgais, ergyd
20Heb y gern heibio i gyd.
Mau och, aeth fy mwa i
Yn drichnap, annawn drychni.

   Llidiais, nid arswydais hyn,
24Arth ofidus, wrth fadyn.
Gŵr yw ef a garai iâr,
A choeg edn, a chig adar,
Gŵr ni ddilid gyrn ddolef,
28Garw ei lais a'i garol ef.
Gwridog yw ym mlaen grodir,
Gwedd âb ymhlith y gwŷdd ir,
Lluman brain garllaw min bryn,
32Llamwr erw, lliw maroryn,
Drych nod brain a phiod ffair,
Draig unwedd daroganair,
Cynnwr frŷn, cnöwr iâr fras,
36Cnu dihareb, cnawd eirias,
Taradr daeargadr dorgau,
Tanllestr ar gwr ffenestr ffau,
Bwa latwm di–drwm draed,
40Gefel unwedd gylfinwaed.

   Nid hawdd ymy ddilid hwn
A'i dŷ annedd hyd Annwn.
Deugwae'r talwrn lle digwydd,
44Delw ci yn adolwg gŵydd.
Rhodiwr coch, rhydaer y'i caid,
Rhedai 'mlaen rhawd ymlyniaid.
Llym ei ruthr, llamwr eithin,
48Llewpart a dart yn ei din.