Y Llwynog
Ddoe 'roeddwn (ar berwyl sicr)
dan y coed (gwae'r dyn na wêl mohoni),
yn sefyllian dan frigau Ofydd
4 ac yn aros am ferch islaw'r coed.
Fel yr oeddwn, a minnau'n diogelu'r deildy,
yn fwyaf bodlon dan lwyn o ddail ir -
gwnaeth imi wylo ar fy hynt -
8 gwelwn, pan edrychwn draw,
ffurf epa gwryw lle na fynnwn iddo fod,
llwynog coch (mae'n gas ganddo gân cwn)
yn eistedd fel baedd dof
12 gerllaw ei ffau ar ymyl ei afl.
Anelais rhwng fy nwylo
fwa o bren yw (bu'n feiddgar acw)
gan fwriadu, fel gwr medrus ei annel,
16 ar gwr y rhiw (ffyrnigrwydd llawn cynnwrf) -
arf a ruthrai dros wastatir -
ei fwrw â saeth braff hir.
Tynnais, trwy gais gwyrgam, ergyd
20 heibio fy moch ac yn llwyr heibio'r nod.
Gwae fi, aeth fy mwa i
yn dri o ddarnau, trychineb anffodus.
Digiais - ni'm brawychwyd gan hyn
24 (arth bryderus) - wrth lwynog.
Gwr ydyw a fydd yn hoff o iâr,
ac aderyn balch, a chig adar,
gwr nad yw'n dilyn galwad cyrn,
28 garw yw ei lais a'i garol ef.
Mae'n writgoch o flaen tir graeanog,
un tebyg i epa ymysg y coed gwyrddion,
baner [i ddychryn] brain ger ymyl bryn,
32 un sy'n llamu erwau, o liw colsyn byw,
drych amlwg [i ddychryn] brain a phiod teg,
un tebyg i ddraig y daroganau,
llid llawn cynnwrf, cnöwr iâr dew,
36 a'i gôt yn ddiarhebol a'i gnawd yn danllyd,
ebill y ddaear hardd, wag ei chroth,
llusern ar fin ffenestr ffau,
bwa efydd ysgafndroed,
40 un tebyg i efel a'i safn yn waedlyd.
Nid yw'n hawdd imi ddilyn hwn
a'i gartref cyn belled ag Annwfn.
Gwae ddwywaith y llannerch lle daw,
44 llun ci yn awchu am wydd.
Cerddwr coch, fe'i ceid yn ddyfal iawn,
byddai'n rhedeg o flaen haid o fytheiaid.
Mae ei ruthr yn chwim, llamwr eithin,
48 llewpart a gwayw yn ei din.