| Y Llwynog | |
| Ddoe 'roeddwn (ar berwyl sicr) | |
| dan y coed (gwae'r dyn na wêl mohoni), | |
| yn sefyllian dan frigau Ofydd | |
| 4 | ac yn aros am ferch islaw'r coed. |
| Fel yr oeddwn, a minnau'n diogelu'r deildy, | |
| yn fwyaf bodlon dan lwyn o ddail ir — | |
| gwnaeth imi wylo ar fy hynt — | |
| 8 | gwelwn, pan edrychwn draw, |
| ffurf epa gwryw lle na fynnwn iddo fod, | |
| llwynog coch (mae'n gas ganddo gân cŵn) | |
| yn eistedd fel baedd dof | |
| 12 | gerllaw ei ffau ar ymyl ei afl. |
| Anelais rhwng fy nwylo | |
| fwa o bren yw (bu'n feiddgar acw) | |
| gan fwriadu, fel gŵr medrus ei annel, | |
| 16 | ar gwr y rhiw (ffyrnigrwydd llawn cynnwrf) — |
| arf a ruthrai dros wastatir — | |
| ei fwrw â saeth braff hir. | |
| Tynnais, trwy gais gwyrgam, ergyd | |
| 20 | heibio fy moch ac yn llwyr heibio'r nod. |
| Gwae fi, aeth fy mwa i | |
| yn dri o ddarnau, trychineb anffodus. | |
| Digiais — ni'm brawychwyd gan hyn | |
| 24 | (arth bryderus) — wrth lwynog. |
| Gŵr ydyw a fydd yn hoff o iâr, | |
| ac aderyn balch, a chig adar, | |
| gŵr nad yw'n dilyn galwad cyrn, | |
| 28 | garw yw ei lais a'i garol ef. |
| Mae'n writgoch o flaen tir graeanog, | |
| un tebyg i epa ymysg y coed gwyrddion, | |
| baner [i ddychryn] brain ger ymyl bryn, | |
| 32 | un sy'n llamu erwau, o liw colsyn byw, |
| drych amlwg [i ddychryn] brain a phiod teg, | |
| un tebyg i ddraig y daroganau, | |
| llid llawn cynnwrf, cnöwr iâr dew, | |
| 36 | a'i gôt yn ddiarhebol a'i gnawd yn danllyd, |
| ebill y ddaear hardd, wag ei chroth, | |
| llusern ar fin ffenestr ffau, | |
| bwa efydd ysgafndroed, | |
| 40 | un tebyg i efel a'i safn yn waedlyd. |
| Nid yw'n hawdd imi ddilyn hwn | |
| a'i gartref cyn belled ag Annwfn. | |
| Gwae ddwywaith y llannerch lle daw, | |
| 44 | llun ci yn awchu am ŵydd. |
| Cerddwr coch, fe'i ceid yn ddyfal iawn, | |
| byddai'n rhedeg o flaen haid o fytheiaid. | |
| Mae ei ruthr yn chwim, llamwr eithin, | |
| 48 | llewpart a gwayw yn ei din. |