1 llyvr dwned dyved dyvyn ar windai
2 i randir llywelyn
3 llannerch aed annerch pob dyn
4 lle twymlys llv at emlyn
5 llynn i bark emlyn kamlas hyd teivi
6 ar tevyrn ymhob plas
7 llvdded gardd lladded i gas
8 lle bor ordded llwybr vrddas
9 llwybr vrddas barr bras yn bwrw bryn eglvr
10 oglais lloegr a ffrydynn
11 lle del yr hollvyd a dynn
12 llaw hael ac enw llywelynn
13 [69] llywelyn ai myn o mynni a grym
14 llawenvab gwilym erddrym wrddri
15 llew nid adrawdd kawdd in koddi nid kaeth
16 llovrvddiaeth amaeth a wnaeth ani
17 llorf llwyth y dylwyth edweli y traidd
18 llariaidd brawdwriaidd hyd bryderi
19 llafvriawdd berthawdd i borthi digeirdd
20 llys ymrynn y beirdd lle heirdd yw hi
21 lle knawd kael gwasgawd a gwisgi dillad
22 lletty anghayad wastad westi
23 lle kynevin gwin a gweini heilgyrn
24 lle chwyrn llwybr tevyrn lle beirw teifi
25 lle dichwerw aserw o eryssi byd
26 lle chwerw esbyd byd eb oedi
27 lle maith i llownwaith llenwi bvelyn
28 lle mae vfyddwin llym i veddwi
29 lle oth nerth ddvw verth idda vi drachefn
30 lle anarlloesdrefn llanw avr llestri
31 llys avrwr ai gwnaeth lle seiri yn valch
32 lliwgaer yn lasgalch llvgyrn losgi
33 llownaf dianaf daioni mynnvd
34 llvniaeth ffraeth ffrwythlvd glod glodvori
35 llwybreiddwlad gariad gwri wallt evryn
36 llywelyn drawst ai law drosti
37 [70] llywiawdr ymerawdr a meiri edelffled
38 llyw yw ar ddyved llawer ddofi
39 llathr law yosb evraw ysbery gweyll
40 llid pyll arf dridryll arvod rodri
41 llinonngadr baladr beli ynggyngaws
42 llwyr naws llyr hoydraws llew orhydri
43 llawn grair hav a bair y beri llwyddvoes
44 llywenydd a roes y moes i mi
45 llywelyn derwyn i dorri aergad
46 llaw vad avr rrvddiad a wyr rroddi
47 llywia na threia vn a thri rag llaw
48 llywia ddawn ieddiaw dduw yw noddi
dd' ap gwilim ai kant