1 doe roeddwn dioer eiddyl
2 dan y gwydd gwaer dyn ai gwyl
3 gorssefyll dan gyrs yfydd
4 ac aros gwenn goris y gwydd
5 [84v] pann oeddwn yn siliwn sail
6 lonydda dan lwyn oddail
7 peris arwyl ym hwyliaw
8 gwelwn pann edrychwn draw
9 llvn grap lleia garwn
10 llwynoc koch nichar llen kwn
12 gore ffav ar gwr i ffwrch
11 yn eiste val davnastwrch
13 anelais Rwng vynwylaw
14 vwa yw dryd ar a vy draw
15 ar veder gwr arfodys
16 arael y rriw eiriol rrys
17 arf i redec ar frodir
18 i vwrw saeth o vrass hir
19 tynnais i er gais ergid
20 heb i gern a heibio i gid
21 mae och aeth ymwa i
22 yn drichnap yn y drychni
23 llidiais nid arswydais hynn
24 arth ovydys wrth fadyn
27 gwr niddilid garn ddolef
28 garw i lais ai garol ef//