â â â Marwnad Llywelyn ap Gwilym
1â â â Dyfed a siomed, symud-ei mawrair,
2â â â Am eryr bro yr hud;
3â â â Doe wiwdymp yn dywedud,
4â â â Hyddawn fur, a heddiw'n fud.
5â â â Cyn hyn, Lywelyn, olud-tiriogaeth,
6â â â Ty rhagof nis caeud;
7â â â Agwrdd udd y gerdd oeddud,
8â â â Agor i mi, y gwr mud.
9â â â Pryd glwys, prudd dadwys prif dud,-praff awdur
10â â â Proffwydair, balchsyth,
drud,
11â â â Prif dda wawd, prawf ddywedud,
12â â â Prydydd, ieithydd, na fydd fud.
13â â â Fy ngheinllyw difyw, Deifr helgud,-baham,
14â â â Bwhwman deigr neud glud,
15â â â Fy nghanllaw y'm gadawud,
16â â â Fy nghâr am aur, fy ngharw mud?
17â â â Gwawr gwir nef a llawr, llef alltud-oedd hon,
18â â â Hyn oedd ddygn nas clywud;
19â â â Gwae fi, Geli pob golud,
20â â â Gwyl fy nghyflwr am wr mud.
21â â â Pendefig, gwledig gwlad hud-is dwfn,
22â â â Ys difai y'm dysgud.
23â â â Pob meistrolrwydd a wyddud,
24â â â Poened fi er pan wyd fud.
25â â â Neud dwfn dy alar, neud difud-fy llef
26â â â Am fy llyw cadarnddrud,
27â â â Nid diboen na'm atebud,
28â â â Nid hawdd ymadrawdd â mud.
29â â â Gwae fi fod, elw clod, ail Clud-nyw ballodd,
30â â â Heb allel dywedud,
31â â â Gwn ofal tost gan ofud,
32â â â Gawr eiriau mawr am wr mud.
33â â â Gwae fi, Grist Celi, caled-o'm rhyfig
34â â â A rhyfedd y'm cosbed,
35â â â Gwymp oeddem oll cyn colled,
36â â â Gwympo crair holl gampau Cred.
37â â â Gwae fi, Grist Celi, calon doll-yw'r fau,
38â â â Wyf fyfyr am ddygngoll,
39â â â Campus eirf, cwmpas arfoll,
40â â â Cwympo udd y campau oll.
41â â â Gwae fyfi fy Rhi, rhoi i'th ddarpar-Duw,
42â â â Dwyn cadarnwalch
cerddgar,
43â â â Nid rhodd gwyl, neud rhudd galar,
44â â â Nad rhydd ymgerydd am gâr.
45â â â Gwae fi ddwyn, ail brwyn, breiniawl gyhoedd-llu,
46â â â Llywodraeth y
bobloedd;
47â â â Lleas taerfalch, lles torfoedd,
48â â â Llawen, gwawr awen gwyr oedd.
49â â â Gwae fi weled, trwydded drwg,
50â â â Neuaddau milwr, twr teg,
51â â â Annawn oes, un yn ysig,
52â â â A'r llall, do gwall, yn dy gwag.
53â â â Gwae'r nai a oerai, a ery-gweled,
54â â â Gwaelawd cof a'm
deffry,
55â â â Y llys fraith yn llaesu fry,
56â â â A'r Llystyn yn arlloesty.
57â â â Llys gwin ac emys, ddigamoedd-gyllid,
58â â â Och golli a'i
gwnaddoedd,
59â â â Llys naf aur, lles niferoedd,
60â â â Llyw lles, pei byw llys pawb oedd.
61â â â Os marw fy ewythr, ys mawr-o ryfedd,
62â â â Aur Afia Cymru i lawr,
63â â â Nad eddwyf, nai a'i diddawr,
64â â â Nad af yngwyllt, Duw fy ngwawr!
65â â â Gwr oedd Lywelyn, gwir ganu-prudd,
66â â â Cyn rhoi pridd i'w
ddeutu,
67â â â Pwynt rhyfel heb ymgelu,
68â â â Penrhaith ar Ddyfed faith fu.
69â â â Gwr, nid gwas, a las o loes archoll-dur,
70â â â A diriaid fu'r
dygngoll,
71â â â Gwrawl hawl mewn helm drwydoll,
72â â â Gair oer am y gorau oll.
73â â â Pwnc truan oerwan am eurwas-yw hyn,
74â â â Honni mawr alanas,
75â â â Cain arddelw cyfan urddas,
76â â â Cyrdd a glyw, cwyn llyw, cyn llas.
77â â â Dihareb yw hon, dywirir-ym mro,
78â â â A laddo a leddir.
79â â â Diben fo, hwn a dybir,
80â â â Dibaid gwae, a Duw boed gwir.
81â â â Llithr ddagrau bid mau, modd chweg,-och allell
82â â â A chyllell faelereg,
83â â â Llawer och dost ar osteg,
84â â â Llathr erddyrn, lladd tëyrn teg.
85â â â Nid diofal, ffyrfdal ffêr,
86â â â Y gelyn a wnêl galar;
87â â â A laddo dyn â'i loywddur,
88â â â I luddias hoedl, a leddir.
89â â â Heilbryn flodeuyn diwyd-a dderyw,
90â â â Ddeurudd diymoglyd;
91â â â Llwyr ydd aeth, gwingaeth gyngyd,
92â â â Haearn â chof a barn byd.
93â â â A wnêl argae, gwae a gwall-i'r deau,
94â â â A gaiff dial cuall;
95â â â A wnêl drwg o dreigl anghall
96â â â Â llaw, arhöed y llall.
97â â â Dall fydd byd, dull gwyd gwedy,-ddwyn llygad
98â â â Oedd yn Lloegr a
Chymru.
99â â â Dwg i'th wledd, ni'm gomeddy,
100â â â Dôr gwyr, da frëyr, Duw
fry.
101â â â Cyfiawnder fu ef, cyfundeb-cyrdd aur,
102â â â Cerddwriaeth
ddoethineb;
103â â â Cyweirdant pob cywirdeb,
104â â â Corf clod, nid un wybod neb.
105â â â Lles bychan buan yw bod-yn rhullfalch,
106â â â A'r hollfyd fel ffurf
rhod;
107â â â Llew syberw lliaws wybod,
108â â â Llas ag arf glas gorf y glod.
109â â â Llew olwg farchog, Llywelyn,-o'th las
110â â â I'th lys deg yn
Emlyn,
111â â â Llai yw'r dysg, medd llawer dyn,
112â â â Llaw i'th ôl llyfr a thelyn.
113â â â Och ddwyn Llywelyn, och ddoeth,-a ddodaf,
114â â â Och a ddyd ei
gyfoeth,
115â â â Och rydd a roddaf drannoeth,
116â â â Och beunydd, ei ddydd a ddoeth.
117â â â Och, och, y Ddôl Goch, ddaly
gwyl-barchus
118â â â Am dy berchen annwyl;
119â â â Och wedy'r ddwyoch ddiwyl,
120â â â Och, panad och? Pwy nid wyl?
121â â â Wylais lle gwelais lle gwely-f'arglwydd,
122â â â Band oedd fawrglod
hynny?
123â â â Gair ateb, wyf gâr yty,
124â â â Gwr da doeth, agor dy dy.
125â â â Gwaelfyrn gwawl tefyrn, gweli tafawd,-gwaith
126â â â Gwaeth bellach
myfyrdawd;
127â â â Gwaeg cedyrn, gwag yw ceudawd,
128â â â Gwecry gwyr gwedy gwawr gwawd.
129â â â Salw a thost am iôr costrith,
130â â â Selerwin fyrdd-drin feirdd-dreth,
131â â â Campus reddf cwmpas roddfath,
132â â â Cwympo i gyd campau byd byth.
133â â â Coeth edling, fflowr dling dy lis-oreuraid,
134â â â Wared clochdy Paris;
135â â â Cymro glew a'n gadewis,
136â â â Cymryd un, Cymry neud is.
137â â â Truan ac eirian, pawb a garo-dadl,
138â â â Aed Landudoch heno;
139â â â Doethineb neud aeth yno,
140â â â Diwyd grair dan dywod gro.