Ir llwynog
1 Doe r oeddwn dioer eddyl
2 Dan y gwydd gwae'r dyn a'i gwyl
+1 Yn aros dan bren arael
+2 Ac aur a main gwrwm ael
3 Gorsefyll dan gyrs ofydd
4 Ac aros gwen goris gwydd
5 Mal 'r oeddwn anseiliwn sail
6 Lonyda dan lwyn adail
7 Gwaeth ar fy hwyl y'm wylaw
8 Gwelwn pan edrychwn draw
9 Llvn gwrab llain ni garwn
10 llwynog coch ni châr lle'n cwn
11 Yn eiste fel dinastwrch
12 Ger ei ffau ar gwr ei ffwrch
13 Annelais rhwng fy nwylaw
14 fwa yw drud a fu draw
15 [82r] Ar fedr fel gwr arfodus
16 Afael ar hwn rhyw ofl rhus
17 Arf i redeg ar frodir
18 I fwrw a saeth ofras hir
19 Tynnais o argais ergyd
20 Heb y gern heibio i gyd
21 Mau ôch aeth y mwa i
22 Yn drichnap anian drychni
23 Llidiais nid arswydais hyn
24 Arth ofidus wrth fadyn
25 Gwr yw ef a garai iar
26 A chig edn a choeg adar
27 Gwr ni ddilyd gyrn ddolef
28 Gwyr y wlad ei garol ef
29 Gwridog yw ym-mlaen grodir
30 Gwael ab ym-mlhith gwiail ir
43 Dygwaith ar dalwrn digwydd
44 Delw ci yw yn adolwg gwydd
31 Lluman brain ger llaw min bryn
32 llamwr eiry lliw marworyn
33 Drych nod brain a phiod ffair
34 [82v] Draig vnwedd daroganair
35 Cenau ar fryn cnowr iar frâs
36 Cnu diareb cnawd eirias
37 Taradr daeargadr dewrgau
38 Tanllestr ar gwrr ffenestr ffau
39 Bwa Latwm didrwm draed
40 Gefel vnwedd gylfinwaed
41 Nid hawdd i mi ddilyd hwn
42 I'w dy annedd hyd annwn
+3 Cyfarth a wna'r ci efydd
+4 Byrglust oedd y boreu glâs dydd
45 Rhodiwr côch rhydaer y caid
46 Rhedai 'm mlaen Rhawd o 'mlyniaid
47 Llym ei ruthr llamwr eithin
48 Llewpart a dart yn ei din
Da' ap Glm' gam
Darlleniadau Amrywiol
Exr per vetust
1 yr
3 vfydd
6 Lonydda; addail
9 lle
16 ar ael y rhiw arial rhus
28 garw ei lais ai garol ef
30 gwedd; y gwydd
43 deugwr talar y digwydd (nid o'r Vetustus)