{k i ferch o waith yr vn gwr}
1 doe i royddwn dioer eiddyl
2 dan y gwydd gware dyn ai gwyl
3 gorsefyll dan gyrs yvydd
4 agaros gwen goris gwydd
7 gwnaeth ar i hwyl ym wylaw
8 gwelwn pan edrychwn draw
9 llyn gwrab lleia a garwn
10 llwynog koch ni char lle kwn
11 yneiste val dinasdwrch
12 gaer i ffay ar gwr i ffwrch
13 ynelais rwng y nwylaw
14 vwa yw dryd a vy draw
15 arveder val gwr arvodys
16 ar ayl yriw arial rys
17 arf i redec ar vrodir
18 i vwrw saeth ovras hir
19 [183] tynais oyrgais ergid
20 heb y gern heibio i gid
21 may och aeth y mwa i
22 yndri chnap anian drychni
23 llidiais nid arswydais hyn
24 arth ovidys wrth vadyn
25 gwr yw ef a garai iar
26 achic edyn achoec adar
28 garw i lais ai garol ef
27 gwr ni ddilid gerdd ddolef
29 gwridoc yw ymlaen grodir
30 gwedd ab ymhylith gwydde ieir
31 llamaer brain garllaw min bryn
32 llamwr erw lliw myroryn
33 drych nod brain a ffiod ffair
34 draig vnwedd droganiair
35 kynwr vryn knowr iar vras
36 knv diareb knawd eirias
37 taradyr davargadyr dewrgay
38 tanllestyr o gwr ffenester gay
39 bwa lattwn didwn draed
40 gevel ynwedd gylvinwaed
41 nid hawdd i mi ddilid hwn
42 ai dy anedd hyd anwn
43 deygwr talwrn i digwydd
44 delw ki y nydolic kwydd
45 rodiwr koch rydaer i kaid
46 redai ym laen rawd ymliniaid
47 llym i rythyr llamwr eithin
48 llewpart a dart yn i din
dd ap gwilim ai kant