â â â Y Dylluan
1â â â Truan i'r dylluan deg
2â â â Ar ddistial na rydd osteg:
3â â â Ni ad ym ganu 'mhader,
4â â â Ni thau tra fo siamplau sêr.
5â â â Ni chaf-och o'r gorafun!-
6â â â Gysgu, na heddychu, hun.
7â â â Ty o drum yr ystlumod
8â â â A gais rhag piglaw ac ôd.
9â â â Beunoeth, bychan rhaib ynof,
10â â â I'm clustiau, ceiniogau cof,
11â â â Pan gaewyf, poen ogyfarch,
12â â â Fy llygaid, penaethiaid parch,
13â â â Hyn a'm deffry, ni hunais,
14â â â Cân y dylluan a'i llais,
15â â â A'i chrochwaedd aml a'i chrechwen
16â â â A'i ffals gywyddoliaeth o'i phen.
17â â â O hynny, modd yr hanwyf,
18â â â Hyd wawrddydd, annedwydd nwyf,
19â â â Canu bydd, annedwydd nâd,
20â â â 'Hw ddy hw', hoyw ddyhead.
21â â â Ynni mawr, myn wyr Anna,
22â â â Annos cwn y nos a wna.
23â â â Budrog yw, ddiwyw ddwywaedd,
24â â â Benfras, anghyweithas waedd;
25â â â Llydan dâl, griafal groth,
26â â â Llygodwraig hen llygadroth;
27â â â Ystig ddielwig eiliw,
28â â â Westn ei llys, ystaen ei lliw.
29â â â Uchel ei ffrec mewn decoed.
30â â â Och o'r cân uwch aerwy coed,
31â â â A'i gwedd, wynepryd dyn gwâr,
32â â â A'i sud, ellylles adar.
33â â â Pob edn, syfudr alltudryw,
34â â â A'i baedd. Ond rhyfedd ei byw?
35â â â Ffraethach yw hon mewn bronnallt
36â â â Y nos no'r eos o'r allt.
37â â â Ni thyn y dydd, crefydd craff,
38â â â Ei phen o geubren gobraff.
39â â â Udai'n ffraeth, adwen ei ffriw,
40â â â Edn i Wyn ap Nudd ydiw.
41â â â Wyll ffladr a gân i'r lladron,
42â â â Anffawd i'r tafawd a'r tôn!
43â â â Er tarfu y dylluan
44â â â Oddi wrthyf mae gennyf gân:
45â â â Rhof tra fwy'n aros y rhew
46â â â Oddaith ym mhob pren eiddew.