Edited Text: 61 - Y Dylluan

Y Dylluan

Truan i'r dylluan deg
Ar ddistial na rydd osteg:
Ni ad ym ganu 'mhader,
4 Ni thau tra fo siamplau sêr.
Ni chaf—och o'r gorafun!—
Gysgu, na heddychu, hun.

   Tŷ o drum yr ystlumod
8 A gais rhag piglaw ac ôd.
Beunoeth, bychan rhaib ynof,
I'm clustiau, ceiniogau cof,
Pan gaewyf, poen ogyfarch,
12 Fy llygaid, penaethiaid parch,
Hyn a'm deffry, ni hunais,
Cân y dylluan a'i llais,
A'i chrochwaedd aml a'i chrechwen
16 A'i ffals gywyddoliaeth o'i phen.
O hynny, modd yr hanwyf,
Hyd wawrddydd, annedwydd nwyf,
Canu bydd, annedwydd nâd,
20 'Hw ddy hw', hoyw ddyhead.

   Ynni mawr, myn ŵyr Anna,
Annos cŵn y nos a wna.
Budrog yw, ddiwyw ddwywaedd,
24 Benfras, anghyweithas waedd;
Llydan dâl, griafal groth,
Llygodwraig hen llygadroth;
Ystig ddielwig eiliw,
28 Westn ei llys, ystaen ei lliw.
Uchel ei ffrec mewn decoed.
Och o'r cân uwch aerwy coed,
A'i gwedd, wynepryd dyn gwâr,
32 A'i sud, ellylles adar.
Pob edn, syfudr alltudryw,
A'i baedd. Ond rhyfedd ei byw?
Ffraethach yw hon mewn bronnallt
36 Y nos no'r eos o'r allt.
Ni thyn y dydd, crefydd craff,
Ei phen o geubren gobraff.
Udai'n ffraeth, adwen ei ffriw,
40 Edn i Wyn ap Nudd ydiw.
Ŵyll ffladr a gân i'r lladron,
Anffawd i'r tafawd a'r tôn!

   Er tarfu y dylluan
44 Oddi wrthyf mae gennyf gân:
Rhof tra fwy'n aros y rhew
Oddaith ym mhob pren eiddew.