Y Dylluan
Gresyn nad yw'r dylluan hardd
ar drawstbren yn ymdawelu.
Nid yw'n caniatáu i mi adrodd fy mhader
4 [ac] ni fydd yn distewi cyhyd ag y bo arwyddion sêr [yn y
ffurfafen].
Ni chaf gysgu cwsg
nac ymlonyddu; gwae oherwydd y modd y gwrthodir [hynny imi].
Bydd yn chwilio am loches ar y copa [megis] yr ystlumod
8 er mwyn osgoi'r cawodydd glaw a'r eira.
Bob nos, ychydig o wefr [a bair] i mi,
yn fy nghlustiau, ceiniogau cof,
pan fyddaf yn cau, cyfarchiad gan boen,
12 fy llygaid, arglwyddi sy'n teilyngu parch,
bydd hyn yn fy neffro, ni chefais gysgu,
[sef] cân y dylluan a'i llais
a'i bloeddiadau arw a lluosog a'i chrechwen
16 a'i pherorasiwn ofer o'i phen.
O'r adeg honno, cyn sicred â'm bod yn fyw,
hyd doriad gwawr, asbri gresynus,
bydd yn canu, nâd [sy'n peri] annifyrrwch,
20 'Hw ddy hw', ebychiad grymus.
Egni mawr [sydd ganddi], myn Crist,
cymell cwn y nos a wna.
Un salw ydyw [a'i] dwy waedd barhaus,
24 un lydan ei phen, gwaedd wrthnysig [hefyd];
llydan ei thalcen, ei brest yn unlliw â'r griafolen,
hen wraig [sy'n hela] llygod [ac sy'n] llygadrythu;
un ddiwyd, ysgymun [ei] hymddangosiad,
28 pwdr yw ei neuadd, cochlyd yw ei lliw.
Uchel yw ei chleber yn y coed niferus.
Gwae [fi] oherwydd ei chân uwch cadwyni'r coed,
ac [oherwydd] ei gwedd, ei hwyneb [megis wyneb] meidrolyn,
32 a'i ffurf, bwbach [ymhlith] yr adar.
Bydd pob aderyn, rhywogaeth ffiaidd a alltudiwyd,
yn ymosod arni. Onid yw ansawdd ei bywyd yn rhyfedd?
Y mae hon yn fwy huawdl ar lechwedd y fron
36 yn ystod oriau'r nos na'r eos o'r allt.
Gydol y dydd ni fydd yn codi ei phen
allan o hollt mewn pren cadarn, ymarweddiad doeth.
Bloeddiai yn huawdl, yr wyf yn gyfarwydd â'i
hymddangosiad,
40 aderyn ydyw i Wyn ap Nudd.
Gwrach gegog sy'n canu i'r lladron,
O na ddeuai anffawd i'w thafod ac i'w chân!
Mae gennyf ddeisyfiad er mwyn erlid
44 y dylluan oddi wrthyf:
tra byddaf yn goddef rhew [y gaeaf],
gwnaf goelcerth â phob pren eiddew.