kowydd i ddifav r dyllvan
1 trvan ir dyllvan dec
2 ddisdadl ym na rydd ostec
3 ni ad ym ganv fymhader
4 ni thav tra fo siamplav ser
5 ni chaf och or gorafvn
6 gysgu na hyddychv hvn
7 ty o drvm yr ysdlvmod
8 i gefn rhac piglaw ac od
9 bevnydd bychan raib yno
10 im klvstiav kynhiokav ho
11 pann gavwyf poen y gy arch
12 fy llygaid penaethiaid parch
13 hynn am deffry ni hvnais
14 kann y dyllvan ai llais
15 ai chrochwaedd amal ai chrechwen
16 ai ffals gywddav oi ffenn
17 o hynny modd ir henwyf
18 hyd wawr ddydd anedwydd nwyf
19 kanv bydd anedwydd nad
20 hw ddv hw hoew hoew ddyhvad
21 [39r] inni mawr mynn gwyrth anna
22 annos kwn y nos a wna
23 bvdroc ddifwy i dwywaedd
24 benfras anghyweithas waedd
25 llydan dal a grisial groth
26 llygodwraic hen llygadroth
27 ysdic ddi elwic eiliw
28 wesdin i llys ysden lliw
29 vchel i ffrek mewn dekoed
30 och or kan vwch aerwy koed
31 ai gwedd wynebpryd dyn gwar
32 ai svd yllylles adar
33 pob edn sy fvdr alldvdryw
34 ai baedd a rhyfedd i byw
35 ffraethach yw honn mewn bron allt
36 y nos nar eos or allt
37 ni thynn y dydd krefydd kraff
38 i ffenn o gevbren gobraff
39 i dai /n/ ffraeth adwen i ffriw
40 edn i wynn ap nvdd ydiw
41 wyll ffladr a gan ir lladron
42 anffawd ir tafawd ar ton
43 er tarfv y dyllvan
44 oddiwrthyf mae genyf gan
45 rhof tra fwy yn aros rhew
46 oddaith ymhob pren eiddew
Dafydd ap gwilim