1 Truan i dylluan dec
2 Ddistadlar ddistyll na rydd yn ostec
3 Ny ad ym ganu ymhader
4 Ny thau tra vo siamplau ser
5 Ny chaiff eisiau gorafun
6 Gyscu na heddychu hun
7 Ty o drym yr ystlymod
8 A gaiff rhac piclaw ac od
9 Beunydd bychan rhaib ynof
10 Im clustie ceinioge cof
11 Pan gafwy poen o gyfarch
12 Vy llygaid penaethiaid parch
13 Hyn am deffry em honais
14 Can y dylluan ai llais
15 Ai chyrychwaedd aml ai chrechwen
16 A ffals gywyddoliaeth oi phen
17 O hyny pan ddehunwyf
18 Ar wawr ddydd anedwydd wyf
19 Canu y bydd annedwydd nad
20 Hw ddy hw hoyw ddyhead
21 [556] Yni mawr myn gwyrth Anna
22 Anos cwn y nos a wna
23 Budroc yw ddiwiw ddwywaedd
24 Benvras anghyweithas waedd
25 Lydan dal griaual groth
26 Lygadwraic hen lygadroth
27 Ystic ddielwic ddiliw
28 Wystyn ei llais ystaen ei lliw
29 Vchel ei ffrek mewn dekoed
30 Och or can mewn ochr coed
31 Ai gwedd wynepryd dyn gwar
32 Ai sud ellylles adar
33 Pop edyn hsyfedr alltudryw{a lledryw}
34 Ai baydd ond rhyuedd ei byw
35 Balchach vydd hon or gronallt
36 Y nos nor eos or allt
37 Ny thyn y dydd crefydd craff
38 Ei phen o geubren gobraff
39 Vdain ffraeth adwaen ei ffriw
40 Edyn Gwyn ap Nudd ydiw
41 [557] Vn ffladr yn canu i ladron
42 Anffod ir tauod ar ton
43 I daruu y dylluan
44 O ddiwrthyf mae genyf gan
45 Rof tra vwy'n aros y rhew
46 Oddaith ympop pren eiddew
Dauid ap Gwilim