Aralleiriad: Paraphrase: 62 - Y Rhugl Groen

Y Rhugl Groen

Fel yr oeddwn (mawl rhwyddaf)
ryw ddiwrnod o'r haf
dan goed rhwng mynydd a maes
4yn aros am fy merch dawel ei geiriau,
dod a wnaeth hi (ni waeth [imi] wadu)
i'r lle'r addawodd, lloer ddigamsyniol [ydoedd hi].
Cydeistedd [a wnaethom] (pwnc ardderchog,
8peth petrus), mi a['r] ferch;
cyd-ddweud (cyn i['m] hawl ballu)
geiriau â merch ragorol.

A ni felly (roedd yn wylaidd)
12yn deall serch ein dau,
dyfod a wnaeth (nychdod amddifad o faeth)
gyda chri (ryw gamp aflan)
greadur bach salw ei sŵn (gwaelod sach [yn gwneud] sŵn)
16yn rhith bugail.
A chanddo roedd (datganiad cas)
rhugl groen flin grin ei boch a chras ei chorn.
Canodd (lletywr [â] bol melyn)
20y rhugl groen; och i'r goes grachlyd!
Ac yno heb fodloni
dychrynodd [y] ferch hardd, gwae fi!
Pan glywodd hon ([â] bron wedi ei thorri gan glwy)
24nithio'r cerrig, nid arhosai ddim mwy.

Dan Grist, ni bu tôn mor arw yn y byd Cristnogol
(enwogrwydd hwch):
cod [ydyw] ar ben ffon yn cadw sŵn,
28caniad cloch o gerrig mân a gro;
llestr [â] cherrig Seisnig yn gwneud sŵn
[yn] grynedig mewn croen eidion;
cawell tair mil o chwilod,
32crochan rhyferthwy, cwdyn du;
ceidwad gwaun, yn cydoesi â gwellt,
du ei chroen, yn feichiog o ysgyrion crin.
Cas [yw] ei llais gan hen iwrch,
36cloch ddiawl, a pholyn yn ei ffwrch.
Cramen greithiog â chroth o ro yn cario cerrig,
yn gareiau [ar gyfer] byclau y bo.
[Bydded] oerfel i'r taeog anhrefnus ei olwg
40(amen) a ddychrynodd fy merch.