â â â Ei Gysgod
1â â â Doe'r oeddwn dan oreuddail
2â â â Yn aros gwen, Elen ail,
3â â â Yn gochel glaw dan gochl glas
4â â â Y fedwen fal ynfydwas.
5â â â Ucho gwelwn ryw eulun
6â â â Yn sefyll yn hyll ei hun.
7â â â Ysgodigaw draw ar draws
8â â â Ohonof fal gwr hynaws
9â â â A chroesi rhag echrysaint
10â â â Y corff mau â swynau saint.
11â â â 'Dywed, a phaid â'th dewi,
12â â â Yma, wyt wr, pwy wyd ti'.
13â â â 'Myfi, a gad dy ymofyn,
14â â â Dy gysgod hynod dy hun.
15â â â Taw, er Mair, na lestair les,
16â â â Ym fynegi fy neges.
17â â â Dyfod ydd wyf, defod dda,
18â â â I'th ymyl o'm noeth yma
19â â â I ddangos, em addwyngwyn,
20â â â Rhyw beth wyd. Mae rhaib i'th ddwyn'.
21â â â 'Nage, wr hael, anwr hyll,
22â â â Nid wyf felly, dwf ellyll.
23â â â Godrum gafr o'r un gyfrith,
24â â â Tebygach wyd, tebyg chwith,
25â â â I drychiolaeth hiraethlawn
26â â â Nog i ddyn mewn agwedd iawn.
27â â â Heusor mewn secr yn cecru,
28â â â Llorpau gwrach ar dudfach du;
29â â â Bugail ellyllon bawgoel,
30â â â Bwbach ar lun manach moel;
31â â â Grëwr yn chwarae griors,
32â â â Gryr llawn yn pori cawn cors;
33â â â Garan yn bwrw ei gwryd,
34â â â Garrau'r wyll, ar gwr yr yd;
35â â â Wyneb palmer o hurthgen,
36â â â Brawd du o wr mewn brat hen;
37â â â Drum corff wedi'i droi mewn carth,
38â â â Ble buost, hen bawl buarth?'
39â â â 'Llawer dydd, yt pes lliwiwn,
40â â â Gyda thi. Gwae di o'th wn!'
41â â â 'Pa anaf arnaf amgen
42â â â A wyddost ti, wddw ystên,
43â â â Ond a wyr pob synhwyrawl
44â â â O'r byd oll? Yty baw diawl!
45â â â Ni chatcenais fy nghwmwd,
46â â â Ni leddais, gwn, leddf ysgwd;
47â â â Ni theflais ieir â thafl fain,
48â â â Ni fwbechais rai bychain;
49â â â Nid af yn erbyn fy nawn,
50â â â Ni rwystrais wraig gwr estrawn'.
51â â â 'Myn fy nghred, pe mynegwn
52â â â I'r rhai ni wyr 'r hyn a wn,
53â â â Dir ennyd cyn torri annog,
54â â â Fy nghred, y byddud ynghrog'.
55â â â 'Ymogel, tau, y magl tost,
56â â â Rhag addef 'rhawg a wyddost
57â â â Mwy no phe bai tra fai'n fau
58â â â Gowni ar gwr y genau'.