Ei Gysgod
Yr oeddwn ddoe o dan y dail prydferth
yn aros am ferch, un debyg i Elen,
[ac] yn cysgodi rhag y glaw o dan glogyn iraidd
4 y fedwen, fel un o'i gof.
Uwch fy mhen gallwn weld rhyw ffurf
yn sefyll ar ei phen ei hun [a golwg] ffiaidd [arni].
Ciliais i ffwrdd i'r cyfeiriad arall
8 fel [y gwnâi pob] creadur diniwed,
a chroesi fy nghorff [gan lefaru] swynau saint
[i'm diogelu] rhag perygl enbyd.
'Dywed yn awr, a rho'r gorau i'th fudandod,
12 yr wyt [yn debyg i] ddyn [bydol], pwy wyt ti'.
'Fi, dy gysgod hynod dy hun,
a rho'r gorau i'th holi.
Bydd yn dawel, yn enw Mair, paid â llesteirio [dy]
fuddiannau [dy hun],
16 er mwyn i mi gael cyfleu fy nghenadwri.
Yr wyf yn dod yma ger dy fron
yn fy noethni [cynhenid], gweithred fuddiol [yw hon],
er mwyn dangos [i ti], y gwr gwych sy'n lled-gwyno,
20 sut un wyt ti. Mae grymoedd dieflig wedi dy feddiannu'.
'Nage, y gwr hael, yr adyn salw,
nid un felly wyf fi, golwg ellyll.
[Un] o'r un ymddangosiad â gafr gefngrom,
24 yr wyt yn debycach, cyffelybiaeth ryfedd,
i ddrychiolaeth [sy'n peri] gwae
nag i ddyn yn ei briod wedd.
Porthmon mewn dillad du a gwyn yn cega,
28 coesau gwrach ar ffyn tywyll;
bugail ellyllon ofergoelus,
bwbach ar ffurf mynach moel;
gorcheidwad praidd yn esgus bod yn farch heglog,
32 crëyr tal yn pori brwyn y gors;
garan yn ymestyn i'w llawn faintioli,
esgeiriau ysbryd, ar gyrion y cae yd;
gwedd pererin hanner-pan,
36 gwr tebyg i'r brodyr duon mewn clogyn clytiog;
ffurf celain wedi ei wisgo mewn lliain,
ym mha le y buost, yr hen bolyn buarth?'
'Gyda thi yn gyson pe bawn yn [dewis] edliw hynny i ti.
40 Gwae di os gwn dy hanes'.
'Pa drosedd arall a briodolir i mi
y gwyddost amdani, gwddf piser,
nad yw pob un arall call yn y byd crwn
44 yn ei wybod [eisoes]? Tydi yr adyn dieflig!
Ni ddifriais fy mro,
ni roddais ergyd hwyrfrydig, gwn yn iawn;
ni fûm yn ymosod ar ieir â ffon dafl,
48 ni pherais arswyd i rai diniwed;
ni wnaf ddim sy'n anghyson â'm greddf,
ni rwystrais wraig gwr dieithr [rhag fy nghael]'.
'Ar fy llw, pe bawn yn datgan
52 i'r rhai hynny na wyddant yr hyn a wn,
cyn gallu rhwystro hynny, dyma fy marn,
yn fuan ac yn anochel caet dy grogi'.
'Ymatal rhag cyfaddef yn awr yr hyn a wyddost,
56 y rhwystr garw, [ac] ymdawela
yn fwy na phe bai, tra byddi'n perthyn i mi,
bwythau ar ymylon dy geg'.