Ei Gysgod | |
Yr oeddwn ddoe o dan y dail prydferth | |
yn aros am ferch, un debyg i Elen, | |
[ac] yn cysgodi rhag y glaw o dan glogyn iraidd | |
4 | y fedwen, fel un o'i gof. |
Uwch fy mhen gallwn weld rhyw ffurf | |
yn sefyll ar ei phen ei hun [a golwg] ffiaidd [arni]. | |
Ciliais i ffwrdd i'r cyfeiriad arall | |
8 | fel [y gwnâi pob] creadur diniwed, |
a chroesi fy nghorff [gan lefaru] swynau saint | |
[i'm diogelu] rhag perygl enbyd. | |
'Dywed yn awr, a rho'r gorau i'th fudandod, | |
12 | yr wyt [yn debyg i] ddyn [bydol], pwy wyt ti'. |
'Fi, dy gysgod hynod dy hun, | |
a rho'r gorau i'th holi. | |
Bydd yn dawel, yn enw Mair, paid â llesteirio [dy] fuddiannau [dy hun], | |
16 | er mwyn i mi gael cyfleu fy nghenadwri. |
Yr wyf yn dod yma ger dy fron | |
yn fy noethni [cynhenid], gweithred fuddiol [yw hon], | |
er mwyn dangos [i ti], y gŵr gwych sy'n lled-gwyno, | |
20 | sut un wyt ti. Mae grymoedd dieflig wedi dy feddiannu'. |
'Nage, y gŵr hael, yr adyn salw, | |
nid un felly wyf fi, golwg ellyll. | |
[Un] o'r un ymddangosiad â gafr gefngrom, | |
24 | yr wyt yn debycach, cyffelybiaeth ryfedd, |
i ddrychiolaeth [sy'n peri] gwae | |
nag i ddyn yn ei briod wedd. | |
Porthmon mewn dillad du a gwyn yn cega, | |
28 | coesau gwrach ar ffyn tywyll; |
bugail ellyllon ofergoelus, | |
bwbach ar ffurf mynach moel; | |
gorcheidwad praidd yn esgus bod yn farch heglog, | |
32 | crëyr tal yn pori brwyn y gors; |
garan yn ymestyn i'w llawn faintioli, | |
esgeiriau ysbryd, ar gyrion y cae ŷd; | |
gwedd pererin hanner-pan, | |
36 | gŵr tebyg i'r brodyr duon mewn clogyn clytiog; |
ffurf celain wedi ei wisgo mewn lliain, | |
ym mha le y buost, yr hen bolyn buarth?' | |
'Gyda thi yn gyson pe bawn yn [dewis] edliw hynny i ti. | |
40 | Gwae di os gwn dy hanes'. |
'Pa drosedd arall a briodolir i mi | |
y gwyddost amdani, gwddf piser, | |
nad yw pob un arall call yn y byd crwn | |
44 | yn ei wybod [eisoes]? Tydi yr adyn dieflig! |
Ni ddifriais fy mro, | |
ni roddais ergyd hwyrfrydig, gwn yn iawn; | |
ni fûm yn ymosod ar ieir â ffon dafl, | |
48 | ni pherais arswyd i rai diniwed; |
ni wnaf ddim sy'n anghyson â'm greddf, | |
ni rwystrais wraig gŵr dieithr [rhag fy nghael]'. | |
'Ar fy llw, pe bawn yn datgan | |
52 | i'r rhai hynny na wyddant yr hyn a wn, |
cyn gallu rhwystro hynny, dyma fy marn, | |
yn fuan ac yn anochel caet dy grogi'. | |
'Ymatal rhag cyfaddef yn awr yr hyn a wyddost, | |
56 | y rhwystr garw, [ac] ymdawela |
yn fwy na phe bai, tra byddi'n perthyn i mi, | |
bwythau ar ymylon dy geg'. | |