{ko ir brawd Llwyd}
1 Doe'roeddwn dan oreuddail
2 yn aros gwen Elen ail
3 yn gochel glaw dan gochl glas
4 y vedwen val ynvydwas
5 vcho gwelwn rvw eulvn
6 yn sefyll yn hyll ihvn
7 ysgodigaw draw ar draws
8 o honof val gwr hynaws
9 achroesi rhac echrysaint
10 y corph mav aswynau saint
11 dywaid a phaid ath dewi
12 yma wyt wr pwy ywti
13 myvi a gad dymofvn
14 dy gysgod hynod dy hvn
15 taw er Mair na lestair les
16 a vynegi' vu neges
17 dyvod iddwyf defod dda
18 ith emyl o'm noeth yma
19 i ddangos em addwyngwyn
20 rhyw beth wyd mae rhaib ith ddwyn
21 nag e wr hael unwr hyll
22 nid wyf velly dwf ellyll
23 godrvm gafr o'r vn gyfrith
24 tebygach wyt tebig chwith
25 i drychiolaeth hiraethlawn
26 nog i ddyn mewn agwedd iawn
27 heusor mewn secr yn cecru
28 llorpe gwrach ar dudvach du
29 bugail ellyllon bowgoel
30 bwbach ar lvn manach moel
31 grewr yn chwarau griors
32 gryr llawn yn pori cawn cors
33 [407] garan yn bwrw i gwryd
34 garrae'r wyll ar gwrr yr yd
35 wyneb palmerth o hurthgen
36 brawd du o wr mewn brat hen
37 trvm corph wedi droi mewn carth
38 ple buost hen bawl buarth
39 llawer dydd yt pes lliwiwn
40 gyda thi gwae di oth wn
41 pa anaf arnaf amgen
42 a wyddosti wddw sten
43 ond a wyr pob synwyrawl
44 o'r byd oll ac iti baw diawl
45 ni chatgenais vynghymwd
46 ni leddais gwn leddf ysgwd
47 ni theflais iair athafl ain
48 ni bwbechais rai bychain
49 nid af yn erbyn vy nawn
50 ni rwystrais wraig gwr estrawn
51 myn vynghred pe mynegwn
52 ir rhai ni wyr rhynn a wnn
53 tir enyd cynn torri annog
54 ynghred y byddud ynghrog
55 mogel tau y magl tost
66 rhac addae rhai ac wyddost
57 mwy na phe bai tra vai'n vau
58 gowni ar gwrr y genau
Dauid ap Gwilim