â â â Y Cloc
1â â â Cynnar fodd, cain arfeddyd,
2â â â Canu'dd wyf fi can hawdd fyd
3â â â I'r dref wiw ger Rhiw Rheon
4â â â Ar gwr y graig, a'r gaer gron.
5â â â Yno, gynt ei enw a gad,
6â â â Y mae dyn a'm adwaeniad.
7â â â Hawddamor heddiw yma
8â â â Hyd yn nhyddyn y dyn da.
9â â â Beunoeth, foneddigddoeth ferch,
10â â â Y mae honno i'm hannerch.
11â â â Bryd cwsg ym, a bradw y'i caid,
12â â â Breuddwyd yw, braidd y dywaid,
13â â â A'm pen ar y gobennydd,
14â â â Acw y daw cyn y dydd
15â â â Yng ngolwg, eang eilun,
16â â â Angel bach yng ngwely bun.
17â â â Tybiaswn o'm tyb isod
18â â â Gan fy mun gynnau fy mod.
19â â â Pell oedd rhyngof, cof a'i cais,
20â â â A'i hwyneb pan ddihunais.
21â â â Och i'r cloc yn ochr y clawdd
22â â â Du ei ffriw a'm deffroawdd.
23â â â Difwyn fo'i ben a'i dafod
24â â â A'i ddwy raff iddo a'i rod,
25â â â A'i bwysau, pellennau pwl,
26â â â A'i fuarthau a'i forthwl,
27â â â A'i hwyaid yn tybiaid dydd,
28â â â A'i felinau aflonydd.
29â â â Cloc anfwyn mal clec ynfyd
30â â â Cobler brwysg, cabler ei bryd,
31â â â Cleddau eurych celwyddawg,
32â â â Cnecian ci yn cnocian cawg,
33â â â Mynychglap mewn mynachglos
34â â â Melin wyll yn malu nos.
35â â â A fu sadler, crwper crach,
36â â â Neu deiler anwadalach?
37â â â Oer ddilen ar ei ddolef
38â â â Am fy nwyn yma o nef.
39â â â Cael ydd oeddwn, coel ddiddos,
40â â â Hun o'r nef am hanner nos
41â â â Ym mhlygau hir freichiau hon,
42â â â Ymhlith Deifr ym mhleth dwyfron.
43â â â A welir mwy, alar maeth,
44â â â Wlad Eigr, ryw weledigaeth?
45â â â Eto rhed ati ar hynt,
46â â â Freuddwyd, ni'th ddwg afrwyddynt.
47â â â Gofyn i'r dyn dan aur do
48â â â A ddaw hun iddi heno
49â â â I roi golwg o'r galon,
50â â â Nith yr haul, unwaith ar hon.