| Y Cloc | |
| Cynnar fodd, cain arfeddyd, | |
| Canu'dd wyf fi can hawdd fyd | |
| I'r dref wiw ger Rhiw Rheon | |
| 4 | Ar gwr y graig, a'r gaer gron. |
| Yno, gynt ei enw a gad, | |
| Y mae dyn a'm adwaeniad. | |
| Hawddamor heddiw yma | |
| 8 | Hyd yn nhyddyn y dyn da. |
| Beunoeth, foneddigddoeth ferch, | |
| Y mae honno i'm hannerch. | |
| Bryd cwsg ym, a bradw y'i caid, | |
| 12 | Breuddwyd yw, braidd y dywaid, |
| A'm pen ar y gobennydd, | |
| Acw y daw cyn y dydd | |
| Yng ngolwg, eang eilun, | |
| 16 | Angel bach yng ngwely bun. |
| Tybiaswn o'm tyb isod | |
| Gan fy mun gynnau fy mod. | |
| Pell oedd rhyngof, cof a'i cais, | |
| 20 | A'i hwyneb pan ddihunais. |
| Och i'r cloc yn ochr y clawdd | |
| Du ei ffriw a'm deffroawdd. | |
| Difwyn fo'i ben a'i dafod | |
| 24 | A'i ddwy raff iddo a'i rod, |
| A'i bwysau, pellennau pŵl, | |
| A'i fuarthau a'i forthwl, | |
| A'i hwyaid yn tybiaid dydd, | |
| 28 | A'i felinau aflonydd. |
| Cloc anfwyn mal clec ynfyd | |
| Cobler brwysg, cabler ei bryd, | |
| Cleddau eurych celwyddawg, | |
| 32 | Cnecian ci yn cnocian cawg, |
| Mynychglap mewn mynachglos | |
| Melin ŵyll yn malu nos. | |
| A fu sadler, crwper crach, | |
| 36 | Neu deiler anwadalach? |
| Oer ddilen ar ei ddolef | |
| Am fy nwyn yma o nef. | |
| Cael ydd oeddwn, coel ddiddos, | |
| 40 | Hun o'r nef am hanner nos |
| Ym mhlygau hir freichiau hon, | |
| Ymhlith Deifr ym mhleth dwyfron. | |
| A welir mwy, alar maeth, | |
| 44 | Wlad Eigr, ryw weledigaeth? |
| Eto rhed ati ar hynt, | |
| Freuddwyd, ni'th ddwg afrwyddynt. | |
| Gofyn i'r dyn dan aur do | |
| 48 | A ddaw hun iddi heno |
| I roi golwg o'r galon, | |
| Nith yr haul, unwaith ar hon. | |