Aralleiriad: 64 - Y Cloc

Fersiwn hwylus i'w argraffu

Y Cloc

Dull cynnar, arfaeth cain,
canu yr wyf fi gant o gyfarchion
i'r dref hyfryd ger Rhiw Rheon
4wrth ymyl y graig, a'r gaer gron.
Yno mae un oedd yn fy adnabod,
roedd ei enw'n hysbys gynt.
Henffych heddiw yma
8hyd yng nghartref yr un da.
Mae'r ferch fonheddig a doeth
yn fy annerch bob nos.

Pan fo fy meddwl yn cysgu (a thoredig oedd [y cwsg] a gafwyd),
12breuddwyd yw, prin y mae'n llefaru,
a'm pen ar y gobennydd,
draw y daw cyn y wawr
yn rhith angel bach (delw bell-gyrhaeddol)
16i wely'r ferch.
Roeddwn yn credu yr adeg honno
fy mod acw yn cydorwedd â'm cariad.
Roedd pellter mawr rhyngof fi a'i hwyneb
20pan ddihunais, y cof sy'n edrych amdani.

Damio'r cloc du ei wyneb
yn ochr y mur a'm dihunodd.
Boed ei ben a'i dafod yn ofer
24a'r ddwy raff sydd ganddo a'i olwyn,
a'i bwysau, talpiau pŵl,
a'i ochrau a'i forthwyl,
a'i hwyaid yn meddwl ei bod yn ddydd,
28a'i beirianwaith di-baid.
Cloc annymunol fel clec wallgof
crydd meddw, boed melltith ar ei wyneb,
cleddyf tincer twyllodrus,
32sŵn rhincian ci yn taro dysgl,
clec fynych melin ddrychiolaeth
yn malu gyda'r nos yng nghlawstr mynachlog.
A fu cyfrwywr (strapen grachennog)
36neu döwr mwy gwamal?
Dinistr marwol ar ei lef
am ddod â fi yn ôl yma o'r nefoedd.

Roeddwn yn cael (cofleidiad cysurus)
40cwsg nefolaidd am hanner nos
ym mhlygion breichiau hir y ferch hon,
ym mhlith Saeson ym mhleth dwyfron.
Eigr y wlad, porthiant tristwch,
44a fydd y fath weledigaeth i'w gweld byth eto?

Rhed ati hi eto ar daith,
freuddwyd, ni fydd rhwystr i ti ar dy ffordd.
Gofynna i'r ferch dan y gorchudd euraid
48a ddaw cwsg iddi heno
i roi golwg o'r galon
arni unwaith, nith yr haul.