Kowydd ir Clok am ddeffroi y Bardd oedd yn Breyddwydio /i/ fod /n/
gorfedd gida i gariad
1 Kynar fydd kan arfeddyd
2 kanu i ddwy kan hawdd fyd
3 ir dre wiw glaer-ryw-gron
4 ar gwr y graig ar gaer gron
5 yno gynt fy enw a gad
6 i mae dyn am adwaeiniad
7 hwawddamor haudd o ddiyma
8 hyd yn hyddyn y ddyn dda
9 beynddoeth fonheddig ddoethferch
10 i mae honno im hannerch
51 neithiwr hyno a wneythym
52 braw am llas kael breyddwyd llym
53 [21] gwelwn ym ddarfod mewn gwiwlys
54 fru i ffriodi ar frys
55 a bod fymhen ar obennydd
56 wrth ais y ferch chwerthais o fydd
19 pell oedd ryngof kof kais
20 ai hwyneb pan ddihynais
21 och ir klock yn ochr y klawdd
22 du i ffriw am deffrouawdd
23 di wyn fo i ben ai dawod
24 ai ddwy rhaff euddo ai rrodd rhod
25 ai bwysau pelenau heb hwyl
26 ai fuarthau ai fwrthwl
27 ai hwyaid /n/ tybiaid tydd
28 ai fylinnau aflonydd
29 klog anfwyn fal kleg ynfyd
30 kobler braisg keblir i bryd
31 kleddau oernych kylwyddawg
32 knokiau ki /n/ knekian kawg
33 mynech-glap mewn manach-glos
34 melin wyllt /n/ malu y nos
35 a fau sadler krecker krach
36 ne deiler anwadalach
37 oer ddialedd ar i ddolef
38 am fy nwyn yma o nef
39 kael i ddoeddwn koel ddiddos
40 hyn or nef am hanner nos
41 ymhlygiau hir freichiau hon
42 ymhleth deg ymlhith dwyfron
43 a welir mwy alar maith
44 o wlad eugr ryw wel'digaith
45 etto rhed atti ar hynt
46 [22] freyddwyd ni ddwg afrwyddwynt
47 a gofyn ir deg dan aur do
48 a ddaw hyn iddi heno
49 i roi golwg ar galon
50 nith yr haul vnwaith ar hon
Dafydd ap Gwilim ai kant