Wy 2, 20–2   
    Kowydd ir Clok am ddeffroi y Bardd oedd yn Breyddwydio /i/ fod /n/ gorfedd gida i gariad
 
1    Kynar fydd kan arfeddyd
2    kanu i ddwy kan hawdd fyd
3    ir dre wiw glaer-ryw-gron
4    ar gwr y graig ar gaer gron
5    yno gynt fy enw a gad
6    i mae dyn am adwaeiniad
7    hwawddamor haudd o ddiyma
8    hyd yn hyddyn y ddyn dda
9    beynddoeth fonheddig ddoethferch
10    i mae honno im hannerch
51    neithiwr hyno a wneythym
52    braw am llas kael breyddwyd llym
53    [21] gwelwn ym ddarfod mewn gwiwlys
54    fru i ffriodi ar frys
55    a bod fymhen ar obennydd
56    wrth ais y ferch chwerthais o fydd
19    pell oedd ryngof kof kais
20    ai hwyneb pan ddihynais
21    och ir klock yn ochr y klawdd
22    du i ffriw am deffrouawdd
23    di wyn fo i ben ai dawod
24    ai ddwy rhaff euddo ai rrodd rhod
25    ai bwysau pelenau heb hwyl
26    ai fuarthau ai fwrthwl
27    ai hwyaid /n/ tybiaid tydd
28    ai fylinnau aflonydd
29    klog anfwyn fal kleg ynfyd
30    kobler braisg keblir i bryd
31    kleddau oernych kylwyddawg
32    knokiau ki /n/ knekian kawg
33    mynech-glap mewn manach-glos
34    melin wyllt /n/ malu y nos
35    a fau sadler krecker krach
36    ne deiler anwadalach
37    oer ddialedd ar i ddolef
38    am fy nwyn yma o nef
39    kael i ddoeddwn koel ddiddos
40    hyn or nef am hanner nos
41    ymhlygiau hir freichiau hon
42    ymhleth deg ymlhith dwyfron
43    a welir mwy alar maith
44    o wlad eugr ryw wel'digaith
45    etto rhed atti ar hynt
46    [22] freyddwyd ni ddwg afrwyddwynt
47    a gofyn ir deg dan aur do
48    a ddaw hyn iddi heno
49    i roi golwg ar galon
50    nith yr haul vnwaith ar hon
 
    Dafydd ap Gwilim ai kant