C. y cloc
1 kynar vydd kyn arveddvyd
2 kanu ddwy vi kann hawdd vyd
3 Ir dre wiw gaer rriw rreon
4 Ar gwr y graic ar gaer gron
5 yno gynt i enw a gad
6 y mae dyn am ydwaeniad
7 hawdd amor heddiw yma
8 hyd yn hyddyn y dyn da
9 Bevnoeth vonheddicddoeth verch
10 y mae hono im hanerch
11 Bryd kwsc ym bradv y kaid
12 Brevddwyd yw braidd y dowaid
13 Am penn ar y gobenydd
14 Akwyn y daw kyn y dydd
15 yngolwc engil evlvn
16 Angel bach yngwely bvn
17 Tybiaswn om tyb isod
18 Gan ymun gyne y mod
19 pell oedd rryngo ko ai kais
20 ai hwyneb pan ddy hvnais
21 Och ir klok yn ochyr y klawdd
22 dv i ffriw am dy ffroawdd
23 divwyn vo i ben ai davod
24 ai ddwy rraff eiddo ai rrod
25 ai bwysav pellenav pwyl
26 ai vuarthav ai vorthwyl
27 ai hwyaid yn tybiaid tydd
28 ai velinav avlonydd
29 klok anvwyn val klek ynvud
30 kobler brwysc keblir i bryd
31 kleddav oernych kelwyddawc
32 knobiav kic yn kynepian kawc
33 mynych glep mewn mynachglos
34 melin wyll yn malv nos
35 a vu sadler kroker krach
36 nev deiler an wydalach
37 oer ddilen ar i ddolef
38 am y nwyn yma o nef
39 kael y doeddwn koel ddiddos
40 hvn or ne am haner nos
41 ymlygiav hir vreichiav hon
42 ymleth deifr ymlith dwyfron
43 a welir mwy alar maeth
44 o wlad eigyr weledigaeth
45 Eto rred ati ar hynt
46 vrevddwyd nith ddwc afrwyddwynt
47 Govyn ir ddyn dan avrdo
48 A ddaw hvn iddi heno
49 I rroi golwc or galon
50 nith ir havl vnwaith ar hon
dd' ap Gwylym ai kant