klok
1 kynar vydd kan arveddvyd
2 kanv y ddwy vi kan hawdd vyd
3 ir dre wiw gaer rriw ar hon
4 ar gwr y graig ar gaer gron
7 hawdd ddamor heddiw o ddyma
8 hyd yn hyddyn y dyn da
9 bevnoeth voneddigddoeth verch
10 y mae hono imhanerch
11 bryd kwsg dyn bradw y kaid
12 brevddwyd oedd yw braidd y dywaid
13 am pen ar y gobenydd
14 am kwyn y daw kyn y dydd
15 [37] yngolwg engyl evlyn
16 engil bach yngwely bvn
17 tybiaswn om tyb isod
18 gan vy mvn gyne vy mod
19 pell oedd rryngof kof ai kais
20 ai hwyneb pan ddehvnais
21 och ir klok yn ochyr y klawdd
22 dv i ffriw am dyffroawdd
23 ai ddwy raff iddo ai rod
24 divwyn vo i ben ai davod
25 ai bwysav pellenav pwyl
26 ai vvarthav ai vorthwyl
27 ai hwyaid yn tybiaid tydd
28 ai velinav af lonydd
29 klek anverth y klok ynvyd
30 kobler brwysg kabler i bryd
33 mynychglep mewn mynachglos
34 melin wyll yn malv y nos
35 nibv sadler kroper krach
36 nev deiler anwydalach
37 aer ddilef ar i ddolef
38 am y nwyn yma o nef
39 [38] kael y ddoyddwn koel ddiddiddos
40 hvn or nef am haner nos
41 ymhylygav hir verchiav hon
42 ymhylith dwfr ymheleth dwyvron
43 a welir mwy alar maeth
44 owlad eigyr weledigaeth
45 eto rred ati ar hynt
46 vrevddwy nith ddwg afrwynt
47 govyn ir dyn dan aur do
48 addaw hvn iddi henno
49 iroi golwg ar galon
50 nith ir havl vnwaith ar hon
dd' ap gwilim ai kant