{kowydd y klok}
1 Cynnar vodd cain arveddvydd
2 canv ddwyfi canhawdd vyd
3 ir gaer wiw ger rhiw rheon
4 ar gwrh y graig ar gaer gron
5 yno gynt i enw a gad
6 y mae dyn a'm adwaenad
7 hawddddamor heddiw yma
8 hyd ynhyddyn y dyn da
9 bevnoeth voneddigddoeth verch
10 y mae hono i'm hanerch
11 bryd cwsg dyn a bradw i caid
12 breuddwyd yw braidd ydywaid
13 am pen ar y gobenydd
14 acw y daw cyn y dydd
15 yngolwg eang eulun
16 Angel bach yngwely bvn
17 [339] tybiaswn o'm tyb isod
18 gen vy mvn gyne vy mod
19 pell oedd rhyngof cof ai cais
20 ai hwyneb pan ddyhunais
21 och ir cloc yn ochr y clawdd
22 du i friw a'm difroawdd
23 divwyn vo i ben ai davod
24 ai ddwy raf iddo ai rod
25 ai bwysae pelenae pwl
26 ai vuarthae ai vwrthwl
27 ai hwyaid yn tybiaid dydd
28 ai velinae aflonydd
29 cloc anvwyn mal clec ynvyd
30 cobler brwysg cabler i bryd
31 cleddau ydiw celwyddawg
32 cnyckian ci yn cnocian cawg
33 mynychglap mewn manachglos
34 melin wyll yn malu nos
35 a vu sadler crwper crach
36 neu deiler anwadalach
37 oer ddialaeth ar i ddolef
38 am y nwyn yma o nef
39 cael yddoeddwn coel ddiddos
40 hvn o nef hyd haner nos
41 ymhlygau hir vreichiau hon
42 ymhleth Deifr ymhlith dwy vron
43 a welir mwy alar maeth
44 o wlad Eigr ryw weledigaeth
45 etto rhed atti ar hynt
46 vreuddwyd nith ddwg afrwyddynt
47 govvn ir dyn dan aur do
48 a ddaw hun iddi heno
49 i roi golwg or galon
50 nith yr haul vnwaith ar hon
Dauid ap Gwilim