{Ir Cloc}
1 Cynnar fodd cain arfeddyd
2 Canu ddwyf fi cann hawdd fyd
3 I'r dref wiw ger rhiw rheon
4 Ar gwrr y graig ar gaer gronn
5 Yno gynt ei enw a gad
6 Y mae dyn a'm adwaeniad
7 hawdd ddamawr heddiw yma
8 hyd yn-nhyddyn y dyn da
9 Beunoeth foneddig-ddoeth ferch
10 Y mae honno i'm hannerch
11 Bryd cwsc dyn a bradw y caid
12 breuddwyd yw braidd y dywaid
13 Am penn ar y gobennydd
14 Yno y daw cyn y dydd
15 Yngolwg eang eilun
16 angel bach yng-wely bun
17 Tybiaswn o'm tyb issod
18 gann fy mun gynne fy mod
19 pell a oedd rhyngof cof cais
20 ai hwyneb pan ddihunais
21 Och i'r clocc yn ochr y clawdd
22 Du ei ffriw a'm deffroawdd
23 Difwyn fu ei benn a'i dafod
24 A'i ddwy raff iddo a'i rôd
25 Ai bwyssau pelenau pwl
26 Ai fuarthau a'i forthwl
27 A'i hwyaid yn tybiaid dydd
28 A'i felinau aflonydd
29 Clocc anfwyn fel clecc ynfyd
30 Cobler brwysc, cabler ei bryd
31 Cleddau drwy'r gwas celwyddawg
32 Cnycian ci yn cnocian cawg
33 mynych-glap mewn mynach-glos
34 melin wyll yn malu nos
35 A fu sadler crwper crach
36 ne deiler anwadalach
37 [11v] Oer ddilen ar ei ddolef
38 Am 'y nwyn yma o nef
39 Cael ydd oeddwn coel ddiddos
40 hun o'r nef hyd hanner nos
41 ym-mhlygau hir freichiau hon
42 ym-mhleth dyfr ym-mhlith dwy fron
43 A welir mwy alar maeth
44 O wlad Eigr weledigaeth
45 Eto rhed atti ar hynt
46 freuddwyd nith ddwg afrwyddynt
47 Gofyn i'r dyn dan aur do
48 A ddaw hun iddi heno
49 I roi golwg or galonn
50 Nith yr haul vnwaith ar honn
dd' ap Gwilym