kowydd y klogk ai deffrodd fo
1 kynar fodd kain arfeddyd
2 kanv ddwy fi kan hawddfyd
3 ir dref wiw gaer rhiw rheon
4 ar gwr ygraig ar gaer gron
5 yno gynt enw agad
6 ymae dyn am adwaeniad
7 hawddamor heddiw yma
8 hyd ynhyddyn y ddyn dda
9 [375] bevnoeth foneddigddoeth ferch
10 y mae hono im hanerch
11 bryd kwsg a dyn bradw i kaid
12 brevddwyd yw braidd y dowaid
13 am pen ar i gwbenydd
14 agkw y daw kyn y dydd
15 yngolwg eang evlvn
16 angel bach yngwyly bvn
17 tybiaswn om tyb isod
18 gen fy mvn gyne fymod
19 pell oedd rryngo ko kais
20 ai hwyneb pan ddi hvnais
21 och ir klok yn ochr y klawdd
22 dv i ffriw am deffroawdd
23 ai ddwy raff iddo ai rod
24 difwyn ai ben ai dafod
25 ai bwyse pelene pwl
26 ai fvarthav ai fwrthwl
27 ai hwyaid yn tybiaid tydd
28 ai felinav aflonvdd
29 klegk anfwyn y klogk ynfyd
30 kobler brwysg kabler i bryd
31 kolvddvn ffals kelwyddawg
32 knekian ki yn knokian kawg
33 mynych mynychglek mewn manachglos
34 melin wyll yn malv nos
35 Afv sadler krwper krach
36 ne deilier anwadalach
37 oer ddilen ar i ddolef
38 am ynwyn yma o nef
39 kael iddoeddwn koel ddiddos
40 hvn or nef am haner nos
41 ymlhygav hir freichiav hon
42 ymhelith deifr ymheleth dwyfron
43 a welir mwy alar maeth
44 o wlad eigr weledigaeth
45 eto rhed ati ar hynt
46 frevddwyd ni thwg afrwyddynt
47 gofvn ir dyn dan avr do
48 addaw hvn iddi heno
49 i roi golwg or galon
50 nith yr havl vnwith ar hon
dafydd ap gwilym