1 Kynnar fodd cain arfeddyd
2 kanv 'ddwyfi can hawdd fyd
3 Ir dref wiw ger rhiw rheon
4 Ar gwr y graig a'r gaer gron
5 yno gynt i enw a gad
6 y mae dyn am adwaeniad
7 hawdd ddamor heddyw ymma
8 hyd yn nhyddyn y dyn da
9 [116v] Bevnoeth fonheddig-ddoeth ferch
10 y mae honno i'm hannerch
11 Bryd cwsc dyn a bradw y caid
12 Brevddwyd yw braidd y dywaid
13 Am pen ar y gobennydd
14 Ackw y daw cyn y dydd
15 yngolwg eang evlvn
16 Angel bach yngwely bvn
17 Tybiaswn om tyb issod
18 gan fy mvn gynneu fy mod
19 pell oedd rhyngof cof ai cais
20 Ai hwyneb pan ddyihvnais
21 Och ir clock yn ochr y clawdd
22 Dv i ffriw am ddeffroawdd
23 Difwyn fo i ben ai dafod
24 Ai ddwy raff iddo ai rod
25 Ai bwysav pelenav pwl
26 Ai fvarthav ai fwrthwl
27 Ai hwyaid yn tybiaid dydd
28 Ai felinav aflonydd
29 [117r] Clock anfwyn mal cleck ynfyd
30 Cobler brwysc ceblir i bryd
31 Cleddav drwy'r gwas celwyddawg
32 knyccianu ci yn cnoccianw cawg
33 mynychglap mewn mynachglos
34 melin wyll yn malv nos
35 A fv Sadler crwpper crach
36 ne deiler anwadalach
37 Oer ddialedd ar i ddolef
38 Am y nwyn ymma o nef
39 Cael yddoeddwn coel ddiddos
40 hvn o'r nef am hanner nos
41 ym mhlygeu hir freichiav hon
42 ym mhleth deifr ym mhlith dwyfron
43 A welir mwy alar maeth
44 O wlad eigr ryw weledigaeth
45 Etto rhed atti ar hynt
46 frevddwyd nith ddwg afrwyddynt
47 Gofyn ir dyn dan avr do
48 A ddaw hvn iddi heno
49 I roi golwg ar galon
50 nith yr havl vnwaith ar hon
Da' ap Glm'