1 Kynnar vodd kain ar voddvyd
2 kanu yddwy fi kan hawdd vyd
3 Ir dre wiwgaer riw reon
4 ar gwr y graig ar gaer gron
5 yno gynt enw a gad
6 y mae dyn am adwaenad
7 hawdd a mmor heddiw yma
8 hyd unhyddyn y dyn da
9 beunoeth vonheddig ddoeth verch
10 y mae honno im hannerch
11 bryd kwsg ddyn a bradw i kaid
12 breuddwyd yw braidd y dowaid
13 am pen ar y gwbennydd
14 akw y daw kyn y dydd
15 y ngolwg eang eulyn
16 angel bach yngwely byn
17 tybiaswn om tyb isod
18 gan fy mun gynne fy mod
19 pell oedd rhyngof kof ai kais
20 ai hwyneb pan ddihunais
21 Och ir klock yn ochor y klawdd
22 du i ffriw am deffroawdd
23 difwyn fo i ben ai davod
24 ai ddwy raff iddo ai rod
25 ai bwysu pelene pwl
26 ai vuarthe ai vwrthwl
27 ai hwyaid yn tybiaid dydd
28 ai veline aflonydd
29 klock anvwyn mal cleck ynvyd
30 kobler brwysc kabler i bryd
31 kyleddau kylwyddagvg
32 knycian ki yn knokian kawg
33 Mynych glap mewn manachglos
34 Melin wyll yn malu nos
35 a fu sadler krwper krach
36 Ne deilwr anwadalach
37 oer ddialeth ar i ddolef
38 am y nwyn yma o nef
39 kael ydd oeddwn koel ddiddos
40 hun or nef hyd hanner nos
41 ymhlygeu hir vreichiau hon
42 ymhlith dwfr ymhleth dwyfron
43 a welir mwy alar maeth
44 o wlad eigr ryw weledigaeth
45 etto rhed atti ar hynt
46 vreuddwyd nith ddwg afrwyddynt
47 gofun ir dyn dan aur do
48 a ddaw hun iddi heno
49 I roi golwg ar gallon
50 Nith yr haul unwaith ar hon
Dauid ap Gwilim ai kant