â â â Y Ffenestr
1â â â Cerddais o fewn cadleisiau,
2â â â Cerdd wamal fu'r mwngial mau,
3â â â Gan ystlys, dyrys diroedd,
4â â â Hundy bun, hyn o dyb oedd.
5â â â Da arganfod, dewr geinferch,
6â â â Drwy frig y llwyn er mwyn merch,
7â â â Ffyrf gariad, dygiad agerw,
8â â â Ffenestr gadarn ar ddarn dderw.
9â â â Erchais gusan, gwedd lanach,
10â â â I'r fun drwy'r dderw ffenestr fach,
11â â â Gem addwyn, oedd gam iddi,
12â â â Gomeddodd, ni fynnodd fi;
13â â â Astrus fu'r ffenestr oestraul,
14â â â Lle'i rhoed i ddwyn lleufer haul.
15â â â Ni bwy' hen o bu o hud
16â â â Ffenestr â hon un ffunud,
17â â â Dieithr hwyl, dau uthr helynt,
18â â â Yr hon ar Gaerlleon gynt
19â â â Y dôi Felwas o draserch
20â â â Drwyddi heb arswydi serch,
21â â â Cur tremynt cariad tramawr,
22â â â Gynt ger ty ferch Gogfran Gawr.
23â â â Cyd cawn fod pan fai'n odi
24â â â Hwyl am y ffenestr â hi,
25â â â Ni chefais elw fal Melwas,
26â â â Nychu'r grudd, Dduw, nacha'r gras.
27â â â Betem, fi a'm dlifem dlos,
28â â â Wyneb yn wyneb nawnos,
29â â â Heb wyl sâl, heb olau sêr,
30â â â Heb elw rhwng y ddau biler,
31â â â Mwy'r cawdd o boptu'r mur calch,
32â â â Finfin, fi a'm dyn feinfalch,
33â â â Ni allem, eurem wryd,
34â â â Gael y ddau ylfin i gyd.
35â â â Ni eill dau enau unoed
36â â â Drwy ffenestr gyfyngrestr goed,
37â â â F'angau graen, fy nghaeu o gred,
38â â â 'Fengyl rhag ei chyfynged.
39â â â Ni phoened neb wrth ffenestr
40â â â Rhwng ffanugl nos a rhos restr,
41â â â Heb huno, fal y'm poenwyd,
42â â â Heb hwyl hoyw am ddyn loyw lwyd.
43â â â Torrid diawl, ffenestrawl ffau,
44â â â Â phwl arf ei philerau,
45â â â Awchlwyr llid, a'i chlawr llydan,
46â â â A'i chlo a'i hallwedd achlân,
47â â â Ac a wnaeth, rheolaeth rhus,
48â â â Rhyw restr bilerau rhwystrus;
49â â â Lladd cannaid a'm lludd cynnif,
50â â â A'r llaw a'i lladdodd â llif,
51â â â Lladd dihir a'm lludd dyun,
52â â â Lluddiodd fi lle 'dd oedd y fun.