Edited Text: 65 - Y Ffenestr

Y Ffenestr

Cerddais o fewn cadleisiau,
Cerdd wamal fu'r mwngial mau,
Gan ystlys, dyrys diroedd,
4 Hundy bun, hyn o dyb oedd.
Da arganfod, dewr geinferch,
Drwy frig y llwyn er mwyn merch,
Ffyrf gariad, dygiad agerw,
8 Ffenestr gadarn ar ddarn dderw.

    Erchais gusan, gwedd lanach,
I'r fun drwy'r dderw ffenestr fach,
Gem addwyn, oedd gam iddi,
12 Gomeddodd, ni fynnodd fi;
Astrus fu'r ffenestr oestraul,
Lle'i rhoed i ddwyn lleufer haul.
Ni bwy' hen o bu o hud
16 Ffenestr â hon un ffunud,
Dieithr hwyl, dau uthr helynt,
Yr hon ar Gaerlleon gynt
Y dôi Felwas o draserch
20 Drwyddi heb arswydi serch,
Cur tremynt cariad tramawr,
Gynt ger tŷ ferch Gogfran Gawr.
Cyd cawn fod pan fai'n odi
24 Hwyl am y ffenestr â hi,
Ni chefais elw fal Melwas,
Nychu'r grudd, Dduw, nacha'r gras.

    Betem, fi a'm dlifem dlos,
28 Wyneb yn wyneb nawnos,
Heb ŵyl sâl, heb olau sêr,
Heb elw rhwng y ddau biler,
Mwy'r cawdd o boptu'r mur calch,
32 Finfin, fi a'm dyn feinfalch,
Ni allem, eurem wryd,
Gael y ddau ylfin i gyd.
Ni eill dau enau unoed
36 Drwy ffenestr gyfyngrestr goed,
F'angau graen, fy nghaeu o gred,
'Fengyl rhag ei chyfynged.
Ni phoened neb wrth ffenestr
40 Rhwng ffanugl nos a rhos restr,
Heb huno, fal y'm poenwyd,
Heb hwyl hoyw am ddyn loyw lwyd.

    Torrid diawl, ffenestrawl ffau,
44 Â phŵl arf ei philerau,
Awchlwyr llid, a'i chlawr llydan,
A'i chlo a'i hallwedd achlân,
Ac a wnaeth, rheolaeth rhus,
48 Rhyw restr bilerau rhwystrus;
Lladd cannaid a'm lludd cynnif,
A'r llaw a'i lladdodd â llif,
Lladd dihir a'm lludd dyun,
52 Lluddiodd fi lle 'dd oedd y fun.