| Y Ffenestr | |
| Cerddais o fewn cadleisiau, | |
| Cerdd wamal fu'r mwngial mau, | |
| Gan ystlys, dyrys diroedd, | |
| 4 | Hundy bun, hyn o dyb oedd. |
| Da arganfod, dewr geinferch, | |
| Drwy frig y llwyn er mwyn merch, | |
| Ffyrf gariad, dygiad agerw, | |
| 8 | Ffenestr gadarn ar ddarn dderw. |
| Erchais gusan, gwedd lanach, | |
| I'r fun drwy'r dderw ffenestr fach, | |
| Gem addwyn, oedd gam iddi, | |
| 12 | Gomeddodd, ni fynnodd fi; |
| Astrus fu'r ffenestr oestraul, | |
| Lle'i rhoed i ddwyn lleufer haul. | |
| Ni bwy' hen o bu o hud | |
| 16 | Ffenestr â hon un ffunud, |
| Dieithr hwyl, dau uthr helynt, | |
| Yr hon ar Gaerlleon gynt | |
| Y dôi Felwas o draserch | |
| 20 | Drwyddi heb arswydi serch, |
| Cur tremynt cariad tramawr, | |
| Gynt ger tŷ ferch Gogfran Gawr. | |
| Cyd cawn fod pan fai'n odi | |
| 24 | Hwyl am y ffenestr â hi, |
| Ni chefais elw fal Melwas, | |
| Nychu'r grudd, Dduw, nacha'r gras. | |
| Betem, fi a'm dlifem dlos, | |
| 28 | Wyneb yn wyneb nawnos, |
| Heb ŵyl sâl, heb olau sêr, | |
| Heb elw rhwng y ddau biler, | |
| Mwy'r cawdd o boptu'r mur calch, | |
| 32 | Finfin, fi a'm dyn feinfalch, |
| Ni allem, eurem wryd, | |
| Gael y ddau ylfin i gyd. | |
| Ni eill dau enau unoed | |
| 36 | Drwy ffenestr gyfyngrestr goed, |
| F'angau graen, fy nghaeu o gred, | |
| 'Fengyl rhag ei chyfynged. | |
| Ni phoened neb wrth ffenestr | |
| 40 | Rhwng ffanugl nos a rhos restr, |
| Heb huno, fal y'm poenwyd, | |
| Heb hwyl hoyw am ddyn loyw lwyd. | |
| Torrid diawl, ffenestrawl ffau, | |
| 44 | Â phŵl arf ei philerau, |
| Awchlwyr llid, a'i chlawr llydan, | |
| A'i chlo a'i hallwedd achlân, | |
| Ac a wnaeth, rheolaeth rhus, | |
| 48 | Rhyw restr bilerau rhwystrus; |
| Lladd cannaid a'm lludd cynnif, | |
| A'r llaw a'i lladdodd â llif, | |
| Lladd dihir a'm lludd dyun, | |
| 52 | Lluddiodd fi lle 'dd oedd y fun. |