Y Ffenestr
Cerddais tu fewn i lennyrch,
cerdd wamal fu fy myngial i,
gydag ystlys, tiroedd dyrys,
4 ystafell wely'r ferch, dyma a dybiwn.
Da oedd darganfod, merch brydferth, ddewr,
drwy frig y llwyn er mwyn merch,
cariad grymus, lleidr ffyrnig,
8 ffenestr gadarn ar ddarn o dderw.
Gofynnais am gusan, gwedd harddach [na neb],
i'r ferch drwy'r ffenestr dderw fach,
gem wych, cam oedd iddi [wneud hynny],
12 gwrthododd, ni fynnodd fi;
dyrys fu'r ffenestr sy'n drafferth dragwyddol,
lle gosodwyd hi i ddwyn golau'r haul.
Na fydded imi dyfu'n hen os bu o ran hud
16 ffenestr yr un fath â hon,
ac eithrio cyflwr, dau aruthrol eu helynt,
honno ar Gaerllion gynt
y dôi Melwas oherwydd ei draserch
20 drwyddi heb arswydau serch,
poen eithafol cariad enfawr,
gynt ger ty merch Gogfran Gawr.
Er y cawn fod pan fyddai'n bwrw eira
24 am ysbaid am y ffenestr â hi,
ni chefais wobr fel Melwas,
nychu'r foch, Dduw, dyna'r rhodd.
Petaem, fi a'm gem dlos sy'n gweu,
28 wyneb yn wyneb am naw noson,
heb wobr hael, heb olau sêr,
heb elw rhwng y ddau biler,
mwyfwy'r digofaint o boptu'r mur calch,
32 wefus yn wefus, fi a'm merch fain, falch,
ni allem, gwrhydri gem euraid,
gael y ddwy geg ynghyd.
Ni all dau enau ar unrhyw adeg
36 drwy ffenestr gyfyng ei rhesi o goed,
fy angau trist [yw] fy rhwystro rhag [cyflawni f'] addewid,
gusanu gan mor gyfyng ydyw.
Ni phoenwyd neb wrth ffenestr
40 rhwng ffanugl liw nos a rhes o rosod,
heb gysgu, fel y'm poenwyd innau,
heb hwyl lawen oherwydd merch loyw, dduwiol.
Boed i ddiafol, ffau ffenestrog,
44 dorri ei phileri ag arf pwl,
min llwyr cynddaredd, a'i chlawr llydan,
a'i chlo a'i hallwedd yn gyfan gwbl,
a'r sawl a wnaeth, rheolaeth rhwystr,
48 y fath res o bileri rhwystrus;
lladd yr un ddisglair sy'n llesteirio fy ymdrech,
a'r llaw a'i torrodd â llif,
lladd yr un ddybryd sy'n llesteirio fy nghyfathrach,
52 llesteiriodd fi lle'r oedd y ferch.