| Y Ffenestr | |
| Cerddais tu fewn i lennyrch, | |
| cerdd wamal fu fy myngial i, | |
| gydag ystlys, tiroedd dyrys, | |
| 4 | ystafell wely'r ferch, dyma a dybiwn. |
| Da oedd darganfod, merch brydferth, ddewr, | |
| drwy frig y llwyn er mwyn merch, | |
| cariad grymus, lleidr ffyrnig, | |
| 8 | ffenestr gadarn ar ddarn o dderw. |
| Gofynnais am gusan, gwedd harddach [na neb], | |
| i'r ferch drwy'r ffenestr dderw fach, | |
| gem wych, cam oedd iddi [wneud hynny], | |
| 12 | gwrthododd, ni fynnodd fi; |
| dyrys fu'r ffenestr sy'n drafferth dragwyddol, | |
| lle gosodwyd hi i ddwyn golau'r haul. | |
| Na fydded imi dyfu'n hen os bu o ran hud | |
| 16 | ffenestr yr un fath â hon, |
| ac eithrio cyflwr, dau aruthrol eu helynt, | |
| honno ar Gaerllion gynt | |
| y dôi Melwas oherwydd ei draserch | |
| 20 | drwyddi heb arswydau serch, |
| poen eithafol cariad enfawr, | |
| gynt ger tŷ merch Gogfran Gawr. | |
| Er y cawn fod pan fyddai'n bwrw eira | |
| 24 | am ysbaid am y ffenestr â hi, |
| ni chefais wobr fel Melwas, | |
| nychu'r foch, Dduw, dyna'r rhodd. | |
| Petaem, fi a'm gem dlos sy'n gweu, | |
| 28 | wyneb yn wyneb am naw noson, |
| heb wobr hael, heb olau sêr, | |
| heb elw rhwng y ddau biler, | |
| mwyfwy'r digofaint o boptu'r mur calch, | |
| 32 | wefus yn wefus, fi a'm merch fain, falch, |
| ni allem, gwrhydri gem euraid, | |
| gael y ddwy geg ynghyd. | |
| Ni all dau enau ar unrhyw adeg | |
| 36 | drwy ffenestr gyfyng ei rhesi o goed, |
| fy angau trist [yw] fy rhwystro rhag [cyflawni f'] addewid, | |
| gusanu gan mor gyfyng ydyw. | |
| Ni phoenwyd neb wrth ffenestr | |
| 40 | rhwng ffanugl liw nos a rhes o rosod, |
| heb gysgu, fel y'm poenwyd innau, | |
| heb hwyl lawen oherwydd merch loyw, dduwiol. | |
| Boed i ddiafol, ffau ffenestrog, | |
| 44 | dorri ei phileri ag arf pŵl, |
| min llwyr cynddaredd, a'i chlawr llydan, | |
| a'i chlo a'i hallwedd yn gyfan gwbl, | |
| a'r sawl a wnaeth, rheolaeth rhwystr, | |
| 48 | y fath res o bileri rhwystrus; |
| lladd yr un ddisglair sy'n llesteirio fy ymdrech, | |
| a'r llaw a'i torrodd â llif, | |
| lladd yr un ddybryd sy'n llesteirio fy nghyfathrach, | |
| 52 | llesteiriodd fi lle'r oedd y ferch. |