Nodiadau: 65 - Y Ffenestr

Fersiwn hwylus i

GDG 64

Un o gywyddau'r troeon trwstan yw hwn, lle mae Dafydd yn cael hwyl am ei ben ei hun ym mhersona'r carwr rhwystredig. Yn ei ymdriniaeth â'r serenâd a delwedd y tŷ ym nghanu'r bardd, mae Johnston (1983) yn cymharu'r cywydd â cherddi eraill sy'n disgrifio ymweliad â chartref merch liw nos: 'Gwahanu' (139), 'Tri Phorthor Eiddig' (68), 'Dan y Bargod' (98), 'Y Rhew' (54) a 'Caru yn y Gaeaf' (55). Dengys mor unigolyddol yw ei ymdriniaeth â chonfensiwn Ewropeaidd y serenâd, a'r modd y cyfunir hiwmor a difrifoldeb o fewn yr un gerdd. Dwyseir rhwystredigaeth Dafydd yn y cywydd hwn gan y ffaith ei fod mor gorfforol agos at y ferch ac eto mor arteithiol o bell o allu gwireddu ei ddymuniad oherwydd barrau derw'r ffenest fach. Drwy ffenest y gwêl y ferch yn y cywydd 'Gwahanu' (139) hefyd, ac yntau'n rhodio Ger llys Eiddig a'i briod, ond ffenestr wydrlen yw honno, ac er gwaetha'r rhwystr rhyngddynt, nid rhwystredigaeth sy'n nodweddu'r cywydd hwnnw ond yr argraff y gall serch oresgyn anawsterau materol a chymdeithasol. Creadur gwrtharwrol yw Dafydd yma, a dwyseir ei rwystredigaeth ymhellach gan y cyferbyniad â llwyddiant Melwas i gyrraedd Gwenhwyfar drwy ffenest yng Nghaerllion, a chan ddefnydd effeithiol o sangiadau, yn enwedig yn y frawddeg hir sy'n ymestyn dros lau. 27–34. Mae'r felltith lawn gormodiaith sy'n cloi'r cywydd yn nodweddiadol o gywyddau'r rhwystrau.

Er na raid chwilio am batrymau estron, mae'n werth nodi fod cariadon yn cusanu wrth ffenest yn sefyllfa weddol gyffredin mewn llenyddiaeth. Fe'i ceir, er enghraifft, yn y gân Saesneg 'De Clerico et Puella' o ddechrau'r 14g.: In a wyndou þer we stod we custe vs fyfty syþe, The Harley Lyrics, ed. G.L. Brook (Manchester, 1956), 24.23; gw. ymhellach E.T. Donaldson, Speaking of Chaucer (London, 1970), 25. Gwelodd Helen Fulton, DGEC 250n., debygrwydd trawiadol rhwng y cywydd a hanes Pyramus a Thisbe sy'n ceisio cusanu drwy hollt yn y wal yn Metamorphoses Ofydd, ac mewn fersiwn Ffrangeg o'r 12g. Am gymhariaeth â'r Roman de la Rose, gw. DGIA 165.

Mae fersiwn cyflawn o'r cywydd yn deillio o Lyfr Wiliam Mathew. Ceir y testun gorau yn llaw John Davies, Mallwyd yn Pen 49, a cheir amryw o ddarlleniadau gwahanol yn Ll 6 (llaw anhysbys, c. 1510–30) ac mewn tair o lsgrau. Llywelyn Siôn. Mae Ll 133 (Samuel Williams a Iaco ab Dewi, c. 1712), a'r copïau sy'n deillio ohoni, yn dwyn perthynas agos â thestun Pen 49. Er bod ôl llygru ar destun Ll 6 mewn mannau, cadwodd ambell ddarlleniad amgenach, e.e. 'fengyl yn ll. 38. Ceir fersiwn cynnar ond anghyflawn o'r cywydd mewn llaw anhysbys yn Pen 54 (c. 1480). Mae llau. 9–14, 21–2, 29–32, 37–8 a 47–8 yn eisiau, ond yr un yw trefn y llinellau â fersiwn LlWM, ac eithrio 39–42 sy'n dilyn 7–8 yn nes at ddechrau'r cywydd. Fel arall, mae darlleniadau Pen 54 yn cyfateb yn agos iawn i'r hyn sydd yn Pen 49.

Cynghanedd: croes 10 ll. (19%), traws 20 ll. (38%), sain 17 ll. (33%), llusg 5 ll. (10%).

1. cadleisiau   Lluosog cadlais, ffurf ar cadlas. Dyma'r enghraifft gynharaf a ddyfynnir yn GPC 378: 'llannerch, llecyn deiliog cysgodol, gardd; lawnt, tir amgaeëdig ...'. Yr hyn sydd yn y llsgrau. yw cydleis(i)au – adlewyrchiad o'r ynganiad ar lafar?

7. dygiad   Gallai olygu 'cipiad', ac felly y'i dosberthir yn GPC 1131; cymh. 9.66 Gwawn Geredigiawn, garw ei dygiad. Ymddengys yr ail ystyr, 'dygwr, lleidr' (gyda therfyniad gweithredydd -iad) yn fwy addas yma, i ddisgrifio cariad.

10.   Ll 6 drwy ffenestr dderw fach; cymh. Ll 133. GDG drwy'r ffenestr dderw fach.

13. oestraul   Oes + traul yn yr ystyr 'trafferth' neu 'dinistr, colled'; cf. oesged 'rhodd dragwyddol', GPC 2628.

14. lle'i rhoed   Dilynir Ll 6 yma; lle rhoed sydd yn y llsgrau. eraill.

17.   Cyferbynner golygiad Thomas Parry, Dieithr, hwyl dau uthr helynt, / Yr hon ... . Cymerir mai 'cyflwr, natur' yw ystyr hwyl yma, mewn perthynas enidol ag yr hon, sef y ffenest yng Nghaerllion – dehongliad sy'n gweddu'n well i aceniad y gynghanedd.

dau uthr helynt   Dilynir darlleniad Pen 54, a'i ddeall yn gyfeiriad at hanes Melwas a Gwenhwyfar. Rhydd y llsgrau. eraill da uthr helynt, ac eithrio Ll 6 Dieithr yr hwyl daith yr helynt.

18. Caerlleon   Caerllion ar Wysg, lleoliad llys Arthur sy'n dangos dylanwad Sieffre o Fynwy a'r rhamantau diweddar, gw. GDG t. 496.

19. Melwas   Brenin Gwlad yr Haf. Adroddir y chwedl amdano'n cipio Gwenhwyfar, brenhines Arthur, gan Garadog o Lancarfan yn ei Vita Gildae ac yn hanes Maleagant a Guenièvre yn rhamant Chrétien de Troyes, Le Chevalier de la Charette, gw. TYP 380-5. Fel y sylwodd Johnston (1983, 8), dyma'r unig gyfeiriad at Felwas yn dringo drwy ffenest, ond yn fersiwn Chrétien fe wneir hynny gan achubydd Guenièvre, sef Lancelot. Cadwyd fersiwn o'r un chwedl, yn ôl pob golwg, mewn ymddiddan ar ffurf englynion milwr, gw. TYP 383–4 ac E.D. Jones, 'Melwas, Gwenhwyfar, a Chai', B viii (1935–7), 203–8. Gwyddai Dafydd ab Edmwnd am fersiwn tebyg i'r hyn a geir yn y cywydd hwn: och nad gwiw ychenaid gas / ymy alw am grefft melwas / y lleidr o hvd a lledryd / aeth a bvn i eitha byd ... (GDE IV.29–32). Ynghylch hanes Melwas a Gwenhwyfar, gw. ymhellach Kenneth Jackson, 'Arthur in Early Welsh Verse', yn Arthurian Literature in the Middle Ages, ed. R.S. Loomis (Oxford, 1959), 18–19.

21. tremynt   Fel GDG (gw. t. 497), dilynir Ll 6 yma; am yr ystyr '?gormodol, eithafol', gw. GPC 3586 d.g. tremynt2, tremyn3. Dichon ei fod yn ddarlleniad anos na trymhaint y llsgrau. eraill.

22.   Cynghanedd draws fantach, mae'n debyg, ond mae'n gloff ei haceniad.

merch Gogfran Gawr   Ar Wenhwyfar ferch (G)ogfran Gawr, gw. TYP 380–5 a thriawd 56, ib. 154, lle enwir hi ymhlith Teir Prif Riein Arthur. Ar y ffurfiau Ogfran a Gogfran, gw. ib. 155, 363–4. Yn wahanol i Feirdd y Tywysogion, Gogfran yw'r ffurf fwyaf cyffredin gan y cywyddwyr, a dilynir awgrym Rachel Bromwich i'w gynnwys yma, er y gallasai dreiglo yn dilyn merch (Ll 6 yn unig a rydd Ogran; GDG Ogfran).Ynghylch treiglo enw personol ac enw cyffredin weithiau yn dilyn , gw. TC 109–10.

23. pan fai'n odi   Cymh. 98.33–4 Ni byddwn dan law ac ôd / Ennyd awr onid erod. Ond sylwer mai pan fai 'modi sydd yn Ll 6, sef ffurf ar ymodi. Ymhlith yr ystyron yn GPC 3793 y mae 'symud (yn ôl ac ymlaen) ... gwthio, cyffroi ...; ymystwyrian; trafod neu deimlo (â'r llaw, &c.), llochi, cyffwrdd ...'.

26. Dduw, nacha'r gras   GDG Nychu'r grudd yw, nacha'r gras, ar sail Pen 49 Nychu'r grudd yw na char gras, ond ymddengys y gystrawen yn annhebygol. Yn ôl y llsgrau eraill: yw na chair gras, a gellid aralleirio '[Achos] nychu'r foch yw na cheir gras'. Fodd bynnag, ymddengys y gystrawen honno'r un mor anfoddhaol, a'r tebyg yw yw i nacha'r gael ei lygru'n na châr a na chair yn nhrosglwyddiad llafar y cywydd, ac i hynny esgor ar y ferf yw – grudd Dduw > grudd yw. Yn yr un modd, mae'n debyg i nychaf droi'n ni chaf yn 37.31 (gw. n). Cymh. 69.14 Och wir Dduw, nacha wawr ddydd. Ni chafodd Dafydd elw fel Melwas; yr unig rodd a gafodd, Duw a ŵyr, oedd nychu'r rudd.

27.   Cystrawen Ll 6 sydd fwyaf ystyrlon, Betem, fi a'm ..., cymh. ll. 32 fi a'm dyn feinfalch. Betem a'm ... sydd yn Pen 49 a Pen 54.

dlifem    Mae'n amlwg i'r gair beri trafferth i'r ysgrifwyr: dyliflem sydd yn Pen 54, be bai m am delifom dlos sydd gan Lywelyn Siôn yn Ll 47, ac mae dlysem dlos Ll 6 yn anfoddhaol. Dilynir awgrym Thomas Parry a'i ddeall yn gyfuniad o dlif (ffurf ar dylif) a gem – cymh. eurem yn ll. 33 – ar sail dylifem Pen 49. Rhydd GPC 1137 yr ystyron 'gosodiad yr edafedd yn eu hyd ar i lawr yn y gwŷdd, ystof, bwrw, anwe, gwead; trefniant, cynllun, patrwm, delw'. Yn ôl GDG t. 497, 'Nid clir iawn yr ystyr yn y testun gyda gem, onid y syniad yw y ferch sy'n cynllunio, neu'r ferch y mae Dafydd yn cynllunio ynglŷn â hi. Neu efallai gem wedi ei osod mewn ffrâm o fetel fel y gosodir yr edafedd yn y gwŷdd'. Mae dehongliad Gwyn Thomas yn wahanol eto: 'I and my pretty gem-within-the-trellis'. Gellir ei ddeall yn fwy llythrennol yn ddisgrifiad o ferch sy'n gweu wrth ffenest, a'r elfen gyntaf yn fôn y ferf dylifo 'ystofi, gweu, plethu', GPC 1137. Mae honno'n ddelwedd gyffredin yn y rhamantau ac yn arbennig o addas yma mewn perthynas â'r cyfeiriad at Felwas a Gwenhwyfar. Ceir disgrifiad o Wenhwyfar a'i morynion yn gwnïo wrth ffenest ar ddechrau chwedl Iarlles y Ffynnon, gw. Bobi Jones, Y Tair Rhamant, 1, a chymh. ib. 3 yno yr oedd pedair morwyn ar hugain yn gwnïo pali wrth ffenestr. Adleisir y rhamantau yn nisgrifiad Iolo Goch o lys Syr Hywel y Fwyall, GIG II.43–6 A'i llawforynion, ton teg, / Ydd oeddynt hwy bob ddeuddeg / Yn gwau sidan glân gloywliw / Wrth haul belydr drwy'r gwydr gwiw.

36. cyfyngrestr   Ll 6 gribyngrestr – cymhariaeth rhwng bariau'r ffenest a dannedd cribin?

37. fy nghaeu   Ffurf gyffredin ar y ferf cau, gw. GPC 383. Dilynir Pen 49 gan ddarllen nghaeu o yn ddeusill. GDG fy nghau, fel Ll 133. Ll 47 fy nghaen; Ll 6 vy' ing.

38. 'fengyl   Ll 6 yn unig a rydd y darlleniad hwn. Am efengyl yn golygu 'cusan' (cymh. ll. 9 uchod), gw. GDG t. 497 a GPC 1170: 'ystyr a darddodd oddi wrth yr arfer o gusanu blwch y pacs gan y gynulleidfa tra darllenid yr Efengyl, yn arwydd o gariad brawdol ...'. Awgryma'r gystrawen mai berfenw sydd yma, gw. ib. d.g. efengylaf: efengylu 'cusanu'. Ymddengys fwngial Pen 49 (cymh. ll. 2) yn anaddas yn y cyd-destun.

39–42.  Mae'r llinellau hyn yn dilyn ll. 8 uchod yn Pen 54, ac felly GDG, ond dilynir yma drefn fersiwn cyflawn y cywydd. Sylwer ar y patrwm Ni allem ... Ni eill ... Ni phoened yn llau. 33–9.

40. a rhos restr   Nid yw'r llsgrau. yn cefnogi darlleniad GDG ar ros restr.

42. dyn loyw lwyd   Tybed nad oes yma chwarae ar enw Morfudd Llwyd, a geir yn 105.48, 108.44, 113.32 a 114.36?

45. awchlwyr   Os bydd arf y diafol yn bŵl, bydd digon o awch (min) ar ei lid.

47–8.   Ll 6 Ac a'i gwnaeth ... A'i rhestr ..., ac felly GDG. Rhyw restrau bilerau rhwystrus yw darlleniad Pen 49 a Ll 133, ond fod rhyw wedi ei groesi allan yn y blaenaf, oherwydd sylweddoli, mae'n debyg, fod y llinell sillaf yn rhy hir. Ymddengys y ffurf unigol rhestr yn fwy ystyrlon; cymh. Ll 47 rhyrestr bilerau.

49. lladd   Berfenw yn mynegi dymuniad yn dilyn y ffurf orchmynnol torrid yn ll. 43, gw. GDG t. 497. Diau ei fod yn fwriadol amwys yma ac yn ll. 51, 'torri' a 'lladd'.

cannaid   'Un ddisglair', epithet am y ffenest, fe ymddengys; cf. ll. 14 uchod Lle'i rhoed i ddwyn lleufer haul. Defnyddid yr ansoddair fel enw am yr haul a'r lleuad gynt ac yn drosiadol am rywbeth gwyn neu ddisglair, gw. 50.23n.

50.   r wreiddgoll.

51. dyun   Yn GPC 1150 d.g. dyun, duun rhestrir yr enghraifft hon (GDG duun) fel enw, 'cytundeb, cymdeithas, cyfathrach', ynghyd â Pen 230, 32 dyvn, kytvndeb. Cymh. yr ansoddair duun 'cytûn' neu 'eiddgar', 45.15 a'r ffurf dyhunfoes yn 108.37.