Marwnad Llywelyn ap Gwilym
Amddifadwyd Dyfed, symudwyd ei hymffrost,
o arwr bro'r hud;
ddoe ar adeg wych yn llefaru,
4 y cynheiliad dawnus, a heddiw'n fud.
Cyn hyn, Llywelyn, cyfoeth tiriogaeth,
ni fyddet ti'n cau ty yn fy erbyn;
arglwydd grymus y gerdd oeddet ti,
8 agor i mi, y gwr mud.
Gwedd hardd pennaeth doeth y brif wlad, awdur cadarn
gair o broffwydoliaeth, gwych a syth, dewr,
moliant o brif ddaioni, ceisia siarad,
12 bardd, ieithydd, paid â bod yn fud.
Fy arweinydd ysblennydd difywyd, heliwr Saeson, paham
(y mae treiglo dagrau yn ddyfal)
fy eiriolwr, y'm gadewaist fi,
16 fy nghyfaill am aur, fy ngharw mud?
Arglwydd nef a daear, gwaedd un alltud oedd hon,
roedd hyn yn galed nad oeddet ti'n ei chlywed;
gwae fi, Arglwydd pob cyfoeth,
20 edrych ar fy nghyflwr, oherwydd gwr mud.
Pendefig, arglwydd gwlad yr hud o dan y byd,
dysget fi yn berffaith;
gwyddet bob celfyddyd,
24 poenwyd fi ers i ti fod yn fud.
Dwfn yw dy alar, mae fy llef yn atseinio
am fy arweinydd grymus o wrol,
poenus iawn yw'r ffaith na fyddet yn fy ateb,
28 nid hawdd yw sgwrsio â mudan.
Gwae fi fod, tâl am fawl, cymar Clud na pheidiodd â
hynny,
heb allu siarad,
teimlaf bryder poenus o ofid,
32 geiriau mawr o floedd am wr mud.
Gwae fi, Arglwydd Grist, creulon oherwydd fy rhyfyg
a rhyfedd y'm cosbwyd,
hardd oeddem i gyd cyn y golled,
36 fod trysor holl orchestion y byd Cristnogol wedi cwympo.
Gwae fi, Arglwydd Grist, calon doredig yw fy eiddo,
rwyf yn meddwl yn ddwys am y golled enbyd,
arfau campus, croeso cynhwysfawr,
40 fod arglwydd yr holl orchestion wedi cwympo.
Gwae fyfi, fy Arglwydd, rhoi i'th ragluniaeth Dduw,
cymerwyd ymaith hebog cadarn a garai gerddi,
ni cheir rhodd adeg gwyl, coch yw galar,
44 nad yw'n bosibl dial am berthynas.
Gwae fi ddwyn, ail dristwch, cyhoeddiad breiniol torf,
fod llywodraeth y bobl wedi ei chymryd ymaith;
angau taer a balch, daioni i dorfeydd,
48 un llawen, arglwydd ysbrydoliaeth dynion ydoedd.
Gwae fi weld, croeso gwael,
neuaddau milwr, twr teg,
trychineb oes, un wedi ei ddifrodi,
52 a'r llall, to toredig, yn dy gwag.
Gwae'r nai a oedd yn oeri, sy'n byw i weld
(dyfnder cof sy'n fy neffro)
y llys lliwgar yn dadfeilio acw,
56 a'r Llystyn yn dy gwag.
Llys gwin a meirch, cyfoeth cyfiawn,
och golli'r un a'i gwnaeth,
llys pennaeth aur, budd i lawer,
60 arweinydd llesol, petai'n fyw byddai'n llys i bawb.
Os yw fy ewythr yn farw, mae'n rhyfeddod mawr,
([mae] aur Arabia Cymru i lawr)
nad wyf wedi mynd, mae'n ofid mawr i'r nai,
64 nad af yn wallgof, Duw fy Arglwydd.
Gwr doeth oedd Llywelyn, canu gwir,
cyn rhoi pridd o'i amgylch,
cyflwr rhyfel heb guddio dim,
68 bu'n bennaeth cyfraith Dyfed faith.
Gwr, nid bachgen ifanc, a laddwyd trwy boen clwyf dur,
ac anfad fu'r golled enbyd,
hawliwr gwrol mewn helmed doredig,
72 gair trist am yr un gorau i gyd.
Hanes truenus o ergyd drist ynghylch dyn rhagorol yw hyn,
cyhoeddi llofruddiaeth fawr,
proffesu hardd urddas llwyr
76 (mae'n clywed cerddi, cwynfan am arglwydd) cyn iddo gael ei
ladd.
Dihareb yw hon, fe'i profir yn wir yn y fro,
'Bydd y sawl sy'n lladd yn cael ei ladd'.
Bydded hyn yn ganlyniad, dyma a gredir,
80 diddiwedd yw gwae, yn enw Duw boed hynny'n wir.
Boed fy nagrau'n rhwydd, dull dymunol, och ei bod yn bosibl
â chyllell wedi ei hurio
(llawer och ddolurus yn gyhoeddus,
84 dyrnau disglair) lladd arglwydd hardd.
Nid heb bryder, arwr tal a chadarn,
yw'r gelyn sy'n achosi galar;
y sawl sy'n lladd dyn â'i ddur gloyw,
88 i derfynu bywyd, fe gaiff ei ladd.
Mae blodeuyn ffyddlon a brynai ymborth wedi darfod,
dwy foch eglur;
aeth haearn â chof a barn y byd yn llwyr,
92 meddwl ymroddedig i win.
Y sawl a wna atalfa, gofid ac angen i'r de,
bydd yn dioddef dial sydyn;
y sawl a wna ddrwg trwy symudiad annoeth
96 gyda'i law, boed iddo ddisgwyl y llall.
Dall fydd y byd, dull drygioni, wedyn, [oherwydd] dwyn
llygad
a oedd yn Lloegr a Chymru.
Dduw uchod derbynia i'th wledd, ni fyddi'n fy ngwrthod,
100 amddiffynfa gwyr, uchelwr da.
Roedd ef yn gyfiawnder, yn gytgord cerddi aur,
doethineb celfyddyd barddoni;
cyweirdant pob ffyddlondeb,
104 colofn clod, nid oedd neb mor wybodus.
Lles bychan byrhoedlog yw bod yn fyrbwyll a balch,
a'r holl fyd ar ffurf olwyn;
llew cwrtais llawn gwybodaeth,
108 lladdwyd colofn y clod ag arf las.
Y marchog ag wyneb fel llew, Llywelyn, os lladdwyd di
yn dy lys hardd yn Emlyn,
llai yw'r ddysg, meddai llawer dyn,
112 gwael ar dy ôl yw llyfr a thelyn.
Och fod Llywelyn wedi'i ddwyn ymaith, och feddylgar a
ddodaf,
och a ddoda ei diriogaeth,
och ddiatal a roddaf drannoeth,
116 och beunydd, daeth dydd [ei farwolaeth].
Och, och, y Ddôl Goch, fod dydd coffa parchus wedi'i
gynnal
ar gyfer dy berchennog annwyl;
och ar ôl y ddwy och ddigalon,
120 och, onid och? Pwy nad yw'n wylo?
Wylais lle gwelais orweddle fy arglwydd,
onid oedd hynny'n glodforus?
Gair o ateb, rwyf yn berthynas i ti,
124 y gwr da doeth, agor dy dy.
Byrnau gwael yw llewyrch tefyrn, sarhad geiriol,
gwaith gwaeth bellach yw coffadwriaeth;
ceidwad dynion cadarn, gwag yw'r galon,
128 eiddil yw gwyr ar ôl colli arglwydd moliant.
Hyll a phoenus am arglwydd hael,
taliad i feirdd o win o'r seler ar fyrddau llawn,
greddf wych fel rhodd ymhob man,
132 fod y cyfan o gampau'r byd wedi cwympo am byth.
Tywysog glân, blodeuyn fleur-de-lys euraid y llinach,
gwaredigaeth clochdy Paris;
Cymro dewr a'n gadawodd,
136 o gymryd un, mae pobl Cymru yn waeth.
Pawb sy'n caru dadl, y truenus a'r disglair,
aed i Landudoch heno;
mae'r doethineb wedi mynd yno,
140 trysor ffyddlon dan dywod gro.