Pen 54, 89–91   
   
 
1    kerddeis o vewn kyd leissiau
2    kerdd wamal vvr mwngial mau
3    gan ystlys dyrys diroedd
4    hvndy bvn hynn o dyb oedd
5    da argan voddewr geinverch
6    Drwy vrig y llwyn er mwyn merch
7    [90] ffyrf gariad dygiad agerw
38    ffenestr gadarn ar ddarn dderw
39    Ni ffoened neb wrth ffenestr
40    Rwng ffannvgl no a ros restr
41    heb hvnaw mal ym poenwyd
42    heb hwyl hoyw am ddyn loyw lwyd
15    Ni bwy hen o bu o hud
16    ffenestr a honn vn ffvnvd
17    Dieithr hwyl dev vthr helynt
18    yr honn ar gayr llion gynt
19    y doi velwas o drasserch
20    Drwyddi heb arswydi serch
23    kyd kawn vod pan vein odi
24    hwyl am y ffenestr a hi
25    Ny cheveis elw val melwas
26    Ny chur grudd yw na chair gras
27    betem am dylivlem dlos
28    wyneb yn wyneb nownos
33    [91] Ni allem eurem wryd
34    gayl y ddav ylvin y gyd
35    Nyeill dev enev vnoed
36    Drwy ffenestr gyvyngrestr goed
43    Toryd diawl ffenestrawl ffav
44    a ffwl arf i ffilerav
45    Och lwyr llid ai chlawr llydan
46    ai chlo ai hallwedd ychlan
49    lladd kanneid am lludd kynif
50    ar llaw ai lladdawdd a llif
51    lladd dyir am lludd dyhvn
52    lluddiodd vi lle ddoedd y vvn
 
    Dauit ap guili'