Ll 6, 42–4   
    kywydd y ffenest dderw
 
1    Kerddais o vewn kydlaisiay
2    kerdd amal vy'r mogyal may
3    dan ystlys dyrys diroedd
4    hyd y bym hyn o dyb oedd
5    daan ar ganvod dewr gainverch
6    drwy vric yllwyn er mwyn merch
7    ffyrf gariad dygiad agerw
8    ffenestr gadarn oddarn dderw
9    [43] ercheis gysan gwedd lanach
10    y vyn drwy ffenestr dderw vach
11    gem addwyn oedd gam iddi
12    gomeddoedd ny vynoedd vi
13    astrys vyr ffenestr oystrayl
14    llei rhoed yddwyn llefyr hayl
15    ny bwy hen o by o hyd
16    ffenestr a hon yn ffynyd
17    dieythr yr hwyl daith yr helynt
18    yr hon ar Gaer lleon gynt
19    y doi Velwas o draserch
20    drwyddi heb arswydi serch
21    kyr tremynt kariad tramawr
22    gynt ger ty verch Ogran Gawr
23    kyd gawn vod pan vai 'modi
24    hwyl am yffenestr a hi
25    nychefeis elw val melwas
26    ny chyr grydd yw nachair gras
27    betem vyam dlysem dlos
28    wyneb yn wyneb nawnos
29    heb wyl sal heb olay ser
30    heb elw rwng day biler
31    mwy'r kawdd obopty'r myr kalch
32    vin vin vyam dyn vain valch
33    [44] ny allem ayrem wryd
34    gael yn day ylfyn ygyd
35    ny all day enay vnoed
36    drwyffenestr gribyngrestr goed
37    v'angay graen vy' ing ogred
38    'vengil rhac ychyfynged
39    ny ffoyned neb wrth ffenestr
40    rwng ffanygl nos arhos restr
41    heb hyno val ym poynwyd
42    heb hwyl hoyw am ddyn loyw lwyd
43    tored diawl ffenestrawl ffay
44    affwl arf eyffileray
45    awchlwyr llid aeichlawr llydan
46    ay chlo ay hallwedd achlan
47    ac ai gwnaeth rheolaeth rhys
48    ay rhestr bileray rhwystrys
49    lladd kanaid am llydd kynif
50    ar llaw ay llyddioedd o'r llif
51    lladd dihir am llydd dy hyn
52    llyddioedd vi lleddfoedd yvyn
 
    dd' ap Glm' ai kant
 
    Nodiadau
    14. llefyr Ceir lleufer mewn ysgrifen fanach oddi tano.