â â â Y Mwdwl Gwair
1â â â Ai llai fy rhan o anhun
2â â â No lles a budd ger llys bun?
3â â â Nid hawdd godech na llechu
4â â â A glewed yw y glaw du.
5â â â Pei rhôn i'r ddôr agori
6â â â Y nos, nis llafaswn i
7â â â Rhag gwahardd bun ar ungair.
8â â â Ai gwaeth yn y mwdwl gwair?
9â â â Dawn ym dy fod yn fwdwl,
10â â â Digrifwas pengrychlas pwl.
11â â â Da fu'r gribin ewinir
12â â â Doe a'th gynullodd ar dir.
13â â â Mi a'th wisgais, maith wasgawd,
14â â â Mwyn gochl gwyrddlas uwch gwas gwawd.
15â â â Ceisiais gennyd gael cysellt,
16â â â Colomendy gwecry gwellt.
17â â â Glud y'th folaf â'm tafawd,
18â â â Gnu gwaun, da le i gnoi gwawd.
19â â â Erfai o un y'th luniwyd,
20â â â Un fath, llydan dwynpath llwyd,
21â â â Un dramgwydd ag arglwyddi
22â â â Teg, ac un artaith wyd di.
23â â â Ef a'th las â dur glas glew,
24â â â Bwrdais y weirglodd byrdew.
25â â â Yfory, sydd yty sir,
26â â â O'th lasgae, wair, y'th lusgir.
27â â â Drennydd, uwch y llanw manwair,
28â â â Dy grogi, a gwae fi, Fair!
29â â â Cymynnaf dy gorff adref
30â â â I'r nen, a'th enaid i'r nef.
31â â â Ar lun angel y'm gwely
32â â â Ddyddbrawd uwch taflawd y ty,
33â â â Yn dyfod i gnocio'r drws:
34â â â 'Y mwdwl gwair, ai madws?'