Error processing Anastasia style in file "viewImage.anv" for element "begin": can't read "httppost(tud)": no such element in array in line 1

Testun GolygedigY Mwdwl Gwair Ai llai fy rhan o anhun No lles a budd ger llys bun? Nid hawdd godech na llechu A glewed yw y glaw du. Pei rhôn i'r ddôr agori Y nos, nis llafaswn i Rhag gwahardd bun ar ungair. Ai gwaeth yn y mwdwl gwair? Dawn ym dy fod yn fwdwl, Digrifwas pengrychlas pwl. Da fu'r gribin ewinir Doe a'th gynullodd ar dir. Mi a'th wisgais, maith wasgawd, Mwyn gochl gwyrddlas uwch gwas gwawd. Ceisiais gennyd gael cysellt, Colomendy gwecry gwellt. Glud y'th folaf â'm tafawd, Gnu gwaun, da le i gnoi gwawd. Erfai o un y'th luniwyd, Un fath, llydan dwynpath llwyd, Un dramgwydd ag arglwyddi Teg, ac un artaith wyd di. Ef a'th las â dur glas glew, Bwrdais y weirglodd byrdew. Yfory, sydd yty sir, O'th lasgae, wair, y'th lusgir. Drennydd, uwch y llanw manwair, Dy grogi, a gwae fi, Fair! Cymynnaf dy gorff adref I'r nen, a'th enaid i'r nef. Ar lun angel y'm gwely Ddyddbrawd uwch taflawd y ty, Yn dyfod i gnocio'r drws: 'Y mwdwl gwair, ai madws?'