Y Mwdwl Gwair
Ai llai yw fy niffyg cwsg
na'm lles ac elw ger cartref merch?
Nid hawdd yw stelcian na llechu
4 gan fod y glaw du mor drwm.
Hyd yn oed pe bai'r drws yn agor
gyda'r nos, ni feiddiwn i [fynd i mewn]
rhag ofn i'r ferch fy ngwahardd gydag un gair.
8 A ydyw'n waeth yn y das wair?
Mae'n ffodus i mi dy fod yn das,
y cellweiriwr penbwl gwyrdd â'r gwallt cyrliog.
Da oedd y rhaca â'r ewinedd hir
12 a'th grynhodd ar dir ddoe.
Fe'th wisgais amdanaf, dilledyn hir,
mantell werdd fwyn ar ben gwasanaethwr barddoniaeth.
Ceisais dynnu sypyn ohonot,
16 colomendy gwellt sigledig.
Fe'th folaf â'm tafod yn daer,
cnu'r weirglodd, lle da i gnoi cerdd.
Fe'th luniwyd yn un gwych,
20 yr un fath, pentwr llydan llwyd,
yr un anffawd ag arglwyddi teg,
a'r un yw dy gosb di.
Fe'th dorrwyd â dur llwyd caled,
24 bwrdais byr a thew y weirglodd.
Yfory - dyma i ti gysur -
wair, fe'th lusgir allan o'th gae gwyrdd.
Drennydd, uwch y lli o wair mân,
28 fe'th grogir, a gwae fi, o Fair!
Cymynroddaf dy gorff adref
i'r nenfwd, a'th enaid i'r nefoedd.
Fe'm gweli ar ffurf angel
32 ar Ddydd y Farn uwchben y llofft wair,
yn dod i guro ar y drws:
'Y das wair, a ydyw hi'n bryd?'