kywydd y mwdwl [Gwair]
1 Ai llai vy rhann o annvn
2 no lles a bvdd ger llys bvn
3 nit hawdd godech na llechv
4 a glewet yw y glaw dv
5 Bei rron ir ddor agori
6 y nos nis llavasswn i
7 no gwahardd bvn ar vngeir
8 ai gwaeth yn y mwdwl gweir
9 dawn ym dy vot yn vwdwl
10 digrifwas penngrychlas pwl
11 da vu /r/ gribin ewinir
12 doe ath gynnvllawdd ar dir
13 mi ath wisgeis meith wasgawt
14 mwyn gochl gwyrddlas vwch gwas gwawt
15 keissieis genyt gael kyssellt
16 kolomendy gwely gwellt
17 glut yth volaf am tavawt
18 gnv gwevn da le i gnoi gwawt
19 is yr hvn da yth lvniwyd
20 vnvath llydan dwynpath llwyt
21 [20r] vn dramgwydd ac arglwyddi
22 tec ag vn arteith wyt ti
23 ef ath las a dur glas glew
24 vwrdeis ar weirglodd verdew
25 yvory sydd ytty sir
26 oth lasgae weir yth lvsgir
27 drennydd vwch y llanw manweir
28 dy grogi a gwae vi veir
29 kymynnaf dy gorff adref
30 yr nenn ath eneit yr nef
31 ar lvn angel ym gwely
32 ddyddbrawt vwch taflawt y ty
33 yn dyvot y gnykio /r/ drws
34 y mwdwl gweir ai madws
dd' ap glim' ai kant
Darlleniadau Amrywiol
Exr etiam per vetustum codicem
7 rhac
19 erfai o vn