â â â Y Cwt Gwyddau
1â â â Fal yr oeddwn gynt noswaith,
2â â â Gwiw fu'r dyn, gwae fi o'r daith,
3â â â Gwedy dyfod i'w gwydrball
4â â â Yn lle'dd oedd gwen gymen, gall:
5â â â 'Ai hir gennyd yr ydwyd?
6â â â Dyn dioddefgar, serchog wyd.'
7â â â 'Fy aur, gwddost mae rhyhir,
8â â â Am baham oedd na bai hir?'
9â â â Yno y clywwn wr traglew
10â â â Yn bwrw carwnaid, llygaid llew,
11â â â Yn dwyn lluchynt i'm ymlid
12â â â Yn greulawn ac yn llawn llid,
13â â â O ddig am ei wraig ddisglair,
14â â â Un dewr cryf, myn Duw a'r crair!
15â â â Gwybuum encil rhagddaw,
16â â â Gwybu'r gwas llwyd breuddwyd braw:
17â â â 'Hwyr yt felan ysbardun,
18â â â Aro fi heno fy hun.
19â â â Arfau drwg i ddigoni
20â â â Yw'r cywyddau sydd dau di.'
21â â â Cyrchais ystafell, gell gau,
22â â â Ac addurn oedd i'r gwyddau.
23â â â Meddwn i o'm ystafell:
24â â â 'Ni bu rhag gofal wâl well.'
25â â â Codes hen famwydd drwynbant,
26â â â A'i phlu oedd gysgod o'i phlant;
27â â â Datod mentyll i'm deutu
28â â â Dialaeth y famaeth fu,
29â â â A'm dylud o'r wydd lud lai
30â â â A'm dinistr a'm bwrw danai;
31â â â Cares, drwg y'm cyweirwyd,
32â â â Cu aran balf-lydan lwyd.
33â â â Meddai fy chwaer ym drannoeth,
34â â â Meinir deg, â'i mwynair doeth,
35â â â Seithwaeth genti no'n cyflwr
36â â â Ni'n dau, ac no geiriau'r gwr,
37â â â Gweled hen famwydd blwydd blu,
38â â â Gogam wddw, goeg, i'm maeddu.
39â â â Bes gatai arglwyddïaeth
40â â â Gwyr Caer a'u gwaryau caeth,
41â â â Gwnawn i'r famwydd, dramgwydd dro -
42â â â Rhybuddied rhai a'i beiddio! -
43â â â Amarch i'w chorpws nawmlwydd;
44â â â Am ei hwyl yr wyl yr wydd.