Y Cwt Gwyddau
Fel yr oeddwn pa noswaith,
gwiw fu'r ferch, gwae fi oherwydd y daith,
wedi dod i'w llys disglair
4 lle'r oedd yr eneth ddoeth a chall:
'Ai dyheu'n hir yr wyt ti?
Dyn amyneddgar, cariadus ydwyt.'
'Fy aur, gwyddost ei bod yn rhy hir,
8 pam na fuasai'n hir?'
Yna clywn wr glew iawn
yn bwrw naid carw, a chanddo lygaid llew,
yn dwyn cyrch ffyrnig i'm hymlid
12 yn greulon ac yn llawn digofaint,
gan ddicter am ei wraig ddisglair,
un dewr cryf, myn Duw a'r crair!
Llwyddais i encilio rhagddo,
16 profodd y llanc llwyd freuddwyd llawn braw:
'Go brin y cei di sbardun o ddur,
gwrthwyneba fi heno fy hun.
Arfau gwael i wneud gwrhydri
20 yw'r cywyddau sy'n perthyn i ti.'
Anelais am ystafell, cell wag,
a lloches ydoedd i'r gwyddau.
Meddwn i o'm hystafell:
24 'Ni bu rhag pryder wâl well.'
Cododd hen famwydd bantiog ei thrwyn,
a'i phlu yn gysgod i'w phlant;
datod mentyll o'm cwmpas
28 fu dialedd y famaeth,
a dyma'r wydd ddyfal lwyd yn ymosod arnaf
a'm difa a'm bwrw odani;
perthynas, yn dost y'm curwyd,
32 i grëyr annwyl troed-lydan llwyd.
Meddai fy chwaer wrthyf drannoeth,
geneth deg, â'i gair mwyn, doeth,
mai saith gwaeth ganddi na'n sefyllfa
36 ni'n dau, ac na geiriau'r gwr,
oedd gweld hen famwydd â phlu blwydd,
ddiffaith, gam ei gwddw, yn fy nghuro.
Pe caniatâi arglwyddiaeth
40 gwyr Caer a'u castiau caethiwus,
gwnawn i'r famwydd, hen dro tramgwyddus -
rhybuddied y neb a fo'n ei herio! -
amarch i'w chorffyn nawmlwydd;
44 oherwydd ei hymosodiad fe wyla'r wydd.