1 Fal yr oeddwn gynt Noswaith
2 Gwiw fv'r dyn gwae fi o'r daith
3 [89v] Gwedi dyfod i'w gwydrball
4 Yn lle dd oedd Gwen gymmen gall
5 ai hir gennyd yr ydwyd
6 vn dyoddefgar serchog wyd
7 fy avr gwyddost mai rhyhir
8 am baham oedd na bai hir
9 Nycha y klywn wr traglew
10 Yn bwrw carwnaid llygaid llew
11 Yn dwyn llvchynt i'm ymlid
12 Yn greulawn ac yn llawn llid
13 Odd [ ] ei wraig ddisglair
14 Vn dewr cryf myn duw a'r crair
15 Gwybvym encil rhagddaw
16 Gwybu'r gwas llwyd breuddwyd braw
17 hwyr yw felen yspardvn
18 aro fi heno fy hvn
19 arfau drwg i ddigoni
20 yw'r cywyddau sydd dav di
21 kiliais i stafell gell gav
22 Ac addurn oedd i'r gwyddav
23 Meddwn i o'm ystafell
24 ni bv rhac gofal wal well
25 codes hen famwydd drwynbant
26 [90r] Ai fflv oedd gyscod i'w phlant
27 Dattod mantell i'm devtv
28 Dialeth y fammeth fv
29 A'm dylud o'r wydd lvd lai
30 Am dvnystr a'm bwrw danai
31 Cares drwg iawn y'm cweiriwyd
32 Cv aran balf lydan lwyd
33 Meddai fy chwaer i'm drannoeth
34 Meinir deg a'i mwynair doeth
35 seithwaeth genthi no'n cyflwr
36 ni'n dav ac na geiriav'r gwr
37 gweled hen famwydd blwydd blv
38 gogam wddw goeg i'm maeddv
39 Pe y gattai Arglwyddiaeth
40 Gwyr caer a'i gwareau caeth
41 Gwnawn i'r famwydd dramgwydd dro
42 Rhybuddied rhai ai beiddio
43 Ammarch i'w chorpws nawmlwydd
44 Am ei hwyl yr wyl yr wydd
Da' ap Glm'