Kowydd merch
1 Fal i roeddwn gynt noswaith
2 gwiw fvr dvn gwae fi or daith
3 gwedi dyfod yw gwydyrball
4 yn lle ddoedd gwen gymen gall
5 ai hir genyd i rydwyd
6 dyn dioddefgar serchog wyd
7 fy avr gwddosd mae rreir
8 am ba ham na bai hir
9 nychv i klown wr traglew
10 yn bwrw karwnaid llygaid yllew
11 yn dwyn llychwynt im ymlid
12 yn grevlawn ag yn llawn llid
13 o ddig am i wraig ddisglair
14 vn dewr kas myn duw ar krair
15 gwy bvm enkil rragddaw
16 gwybvr gwas llwyd brevddwyd braw
17 [834] Hwyr yt filain ysbardvn
18 aro fi heno fy hvn
19 arfav drwg i ddigoni
20 ywr kywyddav dav di
21 kiliais i ysdafell gell gav
22 ag addvrn oedd ir gwyddav
23 meddwn i om ysdafell
24 ni bv rrag gofal wal well
25 kodes y rrenwydd drwynbant
26 ai fflv oedd gysgod oi fflant
27 dattod mantell im devtv
28 dialaeth o famaeth fv
29 am dilid or wydd lwydlai
30 am dinesdr am bwrw danai
31 kares drwg iawn im kweiriwyd
32 kvrodd ar balf lydan lwyd